Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth i blant a phobl ifanc o dan 18 oed sydd eisoes yn cael cefnogaeth gan wasanaethau iechyd meddwl

 

Mae'r Pandemig Coronafeirws wedi golygu bod gwasanaethau CAMHS wedi gorfod newid sut maen nhw'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc i sicrhau fod modd cael cefnogaeth yn ddiogel.

 

Newidiadau allweddol y byddwch yn eu gweld wrth dderbyn Gwasanaethau gan CAMHS:
  • Mae atgyfeiriadau (referrrals) newydd yn cael eu derbyn ar hyn o bryd.
  • Bydd nifer cynyddol o apwyntiadau ac asesiadau yn cael eu cwblhau yn rhithiol neu dros y ffôn. 
  • Os byddwch chi'n mynychu apwyntiad ar safle gofynnir ichi wisgo mwgwd, golchi neu ddiheintio eich dwylo a chadw 2 fetr oddi wrth y person agosaf. Ni threfnir apwyntiadau ar safle oni bai fod angen clinigol ac nad yw'n bosibl darparu ymyrraeth therapiwtig o bell.
  • Mae'r pandemig wedi arwain at ychydig o oedi wrth gael mynediad at wasanaethau ac wrth gyfathrebu. Efallai y byddwch yn gorfod aros yn hirach am asesiad a chefnogaeth. Efallai y bydd hefyd yn cymryd mwy o amser inni ymateb i rai o'ch ymholiadau.
  • Os cewch eich asesu fel rhywun sydd angen cefnogaeth frys, fe'ch gwelir o fewn 24 awr.
  • Os ydych chi angen siarad gydag aelod o'ch Tîm CAMHS lleol gallwch ddal i ffonio'ch canolfan blant leol i gael mynediad at wybodaeth a chyngor.

 

Gwybodaeth i Blant a Phobl Ifanc

 

Gwybodaeth i Rieni a Gofalwyr

Rydym yn byw mewn cyfnod anodd ac ansicr, ac mae hyn wedi golygu fod llawer ohonom yn teimlo wedi ein llethu ac o dan straen. Mae'n gyfnod pryderus i lawer o rieni a gofalwyr sy'n poeni am effaith y pandemig ar les emosiynol eu plant. Fodd bynnag, mae ffyrdd y gallwn gefnogi ein plant a'n pobl ifanc i roi'r cyfloedd gorau iddynt aros yn iach yn feddyliol yn ystod y cyfnod anodd hwn. Bydd y wybodaeth isod yn eich helpu i gefnogi'ch plentyn ac i wybod sut i gael gafael ar gymorth.