Bydd cael llai o blant yn teithio i'r ysgol, a llai o blant mewn Lleoliadau Addysgol yn lleihau'r risg y bydd y firws yn lledaenu ac yn heintio unigolion bregus yn y gymdeithas ehangach. Gofynnwyd i ysgolion, a phob darparwr gofal plant, barhau i ddarparu gofal ar gyfer nifer gyfyngedig o blant - plant sy'n agored i niwed, a phlant y mae eu rhieni'n hanfodol i ymateb Covid-19 ac na ellir gofalu amdanynt yn ddiogel gartref.
Ymhlith y rhieni y mae eu gwaith yn hanfodol i ymateb COVID-19 mae'r rhai sy'n gweithio ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac mewn sectorau allweddol eraill a amlinellir isod. Efallai y bydd llawer o rieni sy'n gweithio yn y sectorau hyn yn gallu sicrhau bod eu plentyn yn cael ei gadw gartref, a dylai pob plentyn y gellir derbyn gofal diogel gartref.
Felly, dilynwch yr egwyddorion allweddol hyn:
Os yw'ch gwaith yn hanfodol i ymateb COVID-19 ac na allwch gadw'ch plentyn yn ddiogel gartref, yna bydd eich plant yn cael eu blaenoriaethu ar gyfer darpariaeth addysg.
Mae'r staff yr ystyrir eu bod yn allweddol yn y Gwasanaeth Iechyd yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i;
- Meddygon, Nyrsys, Bydwragedd, Parafeddygon, Gweithwyr Cymdeithasol, Gweithwyr Gofal, a Staff Iechyd Rheng Flaen a Gofal Cymdeithasol eraill gan gynnwys gwirfoddolwyr;
- Y Staff Cymorth ac Arbenigol sy'n ofynnol i gynnal Sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol y DU;
- Y rhai sy'n gweithio fel rhan o'r Gadwyn Gyflenwi Iechyd a Gofal Cymdeithasol, gan gynnwys cynhyrchwyr a dosbarthwyr Meddyginiaethau, ac Offer Amddiffyn Meddygol a Phersonol.
Y cymhwysedd ar gyfer y cymorth gofal plant yng Ngwent yw:
Mae mwy o wybodaeth a sut i gofrestru ar gyfer pob Bwrdeistref ar gael ym mhob un o'r dolenni canlynol: