Neidio i'r prif gynnwy

Iechyd Meddwl a Lles

Rydym yn gwybod y gallai llawer o bobl fod yn teimlo'n bryderus neu dan straen ar hyn o bryd. Mae'n bwysig iawn, fel bob amser, ein bod yn gofalu am ein hiechyd meddwl a'n lles ein hunain, a lle bo hynny'n bosibl iechyd meddwl a lles unrhyw bobl rydyn ni'n eu cefnogi / gofalu amdanyn nhw.

  • Ewch i'n gwefan melo newydd i gael gwybodaeth a chefnogaeth iechyd meddwl yn ardal Gwent.

    Ni fu erioed yn bwysicach gofalu am ein lles meddyliol ein hunain, a lles ein hanwyliaid. Dyna pam mae melo yma i'ch helpu chi i ddatblygu sgiliau newydd a fydd yn eich cefnogi pan fydd bywyd yn anodd. Darllenwch am y cynnydd diweddaraf gyda Melo a beth i edrych ymlaen ato yn ystod y misoedd nesaf yng Nghylchlythyr Melo Hydref 2021 .

  • Ewch i'n tudalen 'adnoddau i gefnogi eraill ' i gael adnoddau ac arweiniad ar iechyd meddwl a lles yn ystod COVID-19. Mae ein Grŵp Gwybodaeth Lles Cymunedol lleol wedi casglu ystod o wybodaeth ddefnyddiol i helpu pobl i gynnal eu hunain ac eraill yn ystod COVID-19. Mae gwybodaeth ddefnyddiol ar gyfer gweithwyr proffesiynol sydd eisiau cefnogi iechyd meddwl a lles eu cleientiaid, gwybodaeth i rieni, gofalwyr ac ati.
  • Darllenwch fwy am Gymorth Iechyd Meddwl yn Gwent yn ystod y pandemig COVID-19 .
  • Mae argyfwng iechyd meddwl yn aml yn golygu nad ydych bellach yn teimlo y gallwch ymdopi neu reoli eich sefyllfa.

    P'un a ydych chi'n profi dirywiad sydyn mewn problem iechyd meddwl sy'n bodoli eisoes neu'n profi problemau am y tro cyntaf, bydd angen asesiad arbenigol ar unwaith i nodi'r ffordd orau o weithredu a'ch atal rhag gwaethygu.