Rydym yn gofyn i bawb wneud popeth o fewn eu gallu i fynychu'r apwyntiad atgyfnerthu cyntaf a gynigir iddynt. Gallai gorfod aildrefnu apwyntiad achosi oedi cyn ichi dderbyn eich brechiad atgyfnerthu, felly gwnewch bopeth o fewn eich gallu i ddod.
Os na allwch ddod i'ch apwyntiad atgyfnerthu (gan gynnwys os ydych wedi profi'n bositif am Covid-19) ac yr hoffech ofyn am apwyntiad newydd, cwblhewch y ffurflen ganlynol.
Sylwch y gellir cymryd sawl wythnos i gynnig apwyntiad arall oherwydd y nifer uchel o breswylwyr sydd angen brechiadau. Byddwch yn amyneddgar tra byddwch chi'n aros i ni gysylltu â chi, a dylir gwblhau'r ffurflen hon dim ond unwaith. Ni fydd cyflwyno'r ffurflen hon eto yn cyflymu'r broses, ond gallai achosi oedi pellach wrth dderbyn eich apwyntiad.
Apwyntiadau BIPAB yn unig
Dim ond apwyntiadau gwnaethpwyd o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan gallwn ni ei ganslo. Bydd angen i chi gysylltu gydag eich Bwrdd Iechyd chi i ganslo eich apwyntiad. Dylai bod manylion cyswllt nhw ar y llythyr neu’r neges testun rydych wedi derbyn.
Cais i ganslo apwyntiad brechiad
Diolch am gysylltu i ganslo eich apwyntiad am frechlyn.
Mae nifer penodol o apwyntiadau gyda ni i gynnig a gallwn ni nawr cynnig yr apwyntiad i rywun arall.
Bydd y ffurflen yn cymryd 3 munud i gwblhau.