Neidio i'r prif gynnwy

Codi - Gwisgo - Parhau i Symud

Yn ystod arhosiad ysbyty, mae aros mor actif â phosibl yn hanfodol ar gyfer adferiad, gan y gall gorffwys yn y gwely achosi i gleifion golli màs cyhyrau a chryfder ar gyfradd frawychus - bydd wythnos o orffwys gwely yn arwain at golled gyhyrol o 10%, a bydd 10 diwrnod yn y gwely yn heneiddio cyhyrau o 10 mlynedd.

Cyfeirir at hyn fel datgyflyru cyhyrol, a gall hefyd wneud cleifion yn fwy agored i gwympo, datblygu wlserau pwysau, a cholli eu hannibyniaeth – gall pob un ohonynt oedi neu hyd yn oed eu hatal rhag gadael yr ysbyty. Gwyddom po hiraf y bydd claf yn aros yn yr ysbyty, po fwyaf yw effaith datgyflyru a'r anoddaf yw hi i'r claf ddychwelyd adref neu osgoi cael ei ail-dderbyn i'r ysbyty.

Yn ystod eu harhosiad, byddwn yn annog cleifion i fod mor annibynnol â phosibl, a bydd staff yn eu cynorthwyo gydag unrhyw weithgareddau y mae angen help arnynt. Gall unrhyw un sy'n dod i gysylltiad â chleifion ar wardiau eu hannog i godi, gwisgo a pharhau i symud, ac i wneud tasgau'n annibynnol lle bo modd - mae hyn yn wir yn benodol am berthnasau ac ymwelwyr, sy'n gallu chwarae rhan fawr wrth leihau dadgyflyru yn y cleifion maen nhw'n ymweld â nhw.

Gall ymwelwyr ofyn i staff y ward am help os nad ydynt yn siŵr pa dasgau sy'n ddiogel neu'n briodol i glaf roi cynnig arnynt.

Gweler rhai awgrymiadau ac enghreifftiau gan ein staff yn y fideos isod.