Neidio i'r prif gynnwy

Caerffili

Gofalu am Gaerffili

Mae Tîm Gofalu am Gaerffili yn cynnig gwasanaeth cydgysylltu ac ymateb canolog i drigolion y fwrdeistref sirol sydd angen cymorth gyda materion fel tlodi bwyd, dyled neu ôl-ddyledion rhent, unigedd neu unigrwydd. Mae'r Cysylltwyr Llesiant yn rhan o Gofalu am Gaerffili.


Nod Cysylltwyr Llesiant yw:

  • Gwella lles cymdeithasol ac emosiynol
  • Hyrwyddo annibyniaeth.
  • Lleihau unigedd cymdeithasol ac emosiynol ac unigrwydd
  • Helpu pobl i deimlo'n rhan o'r gymuned
  • Cydlynu gwasanaethau cymorth priodol i hwyluso canlyniad cadarnhaol ar gyfer achosion cymhleth
  • Darparu gwybodaeth a chyngor ar grwpiau a gweithgareddau cymunedol addas

 

Maent hefyd yn gweithio ochr yn ochr ag amrywiol sefydliadau partner, gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol sy'n gallu darparu'r cymorth a'r gefnogaeth gywir i ddiwallu eich anghenion unigol.

Os ydych chi'n 18+ oed ac eisiau cysylltu, cysylltwch â Gofalu am Gaerffili:

Gwefan: Caerffili - Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili

E-bost: Wellbeingconnectors@caerphilly.gov.uk

Ffôn: 01443 811490

Anfonwch neges destun i: SUPPORT i 07537414443 a bydd aelod o Dîm Gofalu am Gaerffili yn eich ffonio'n ôl.

 

Gwefan Cwtsh a manylion y gweithgareddau lles yn eich ardal

O fewn y wefan hon, fe welwch amrywiaeth o wybodaeth am iechyd a lles yn ogystal â gweithgareddau lleol sy'n digwydd ledled bwrdeistref Caerffili trwy ein Canllawiau Cwtsh i helpu eich lles meddyliol a chorfforol, a ddatblygwyd gan Rwydwaith Lles Integredig Caerffili.

Gwefan: Rhwydwaith Lles Cwtsh - cartref | Cwtsh
 

Facebook Cymuned Cwtsh Caerffili

Os oes gennych chi Facebook, dilynwch Facebook Cymuned Cwtsh Caerffili i ddarganfod beth sy'n digwydd ym mwrdeistref Caerffili i wella iechyd a lles.

https://www.facebook.com/CaerphillyCwtshCommunity/


DEWIS Cymru

Gwefan ddefnyddiol arall yw DEWIS Cymru , gwefan i'ch cynorthwyo i ddod o hyd i weithgareddau, gwasanaethau a sefydliadau lleol a chenedlaethol.


Llyfrgelloedd

Mae llyfrgelloedd yn cefnogi ein cymunedau lleol trwy gynnig lle, adnoddau a chyfleusterau hygyrch am ddim i gefnogi pawb gan gynnwys yr henoed, y rhai sydd wedi'u hynysu, a'r rhai sy'n agored i niwed.

Gwefan: Caerffili - Bwrdeistref Sirol Caerffili

 

Caffis Cymunedol

Tŷ Coffi'r Beech Tree
Gwefan: Beech Tree Coffee House | Caerphilly Miners

Ewch i Caerffili - Bwrdeistref Sirol Caerffili i ddod o hyd i fwy o gaffis sy'n cynnig diodydd poeth a lluniaeth mewn amgylchedd cynnes a diogel.