Neidio i'r prif gynnwy

Yr Uned Gofal y Fron yn Ysbyty Ystrad Fawr - Nawr ar Agor!

 

 

Rydym yn gyffrous iawn bod yr Uned Gofal y Fron arbenigol newydd yn cael ei hadeiladu ar dir Ysbyty Ystrad Fawr yn Ystrad Mynach. Daeth ymgynghoriad a gwerthusiad trylwyr o safleoedd presennol y Bwrdd Iechyd i’r casgliad mai Ysbyty Ystrad Fawr oedd y safle mwyaf priodol i ddarparu gwasanaeth diagnostig, cleifion allanol a thriniaeth o ansawdd uchel i’n preswylwyr.

Bydd yr Uned Gofal y Fron newydd yn cynnig ystod eang o wasanaethau, wedi'u teilwra i ddiwallu anghenion penodol cleifion. Bydd yn canolbwyntio ar driniaeth amserol ac effeithiol, gan sicrhau bod yr unigolyn ynghylch pob rhan o'i gofal o fewn wasanaethau gofal y fron.

Bydd yr Uned bwrpasol yn cynnig naws llai clinigol, gan gynnig amgylchedd cynnes, urddasol a chroesawgar i gleifion a'u teuluoedd.