Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth a Chymorth Ychwanegol

Tîm Budd-daliadau Lles

Gall problemau ariannol fod yn un o'r prif bryderon i gleifion sy'n cael diagnosis o ganser. Mae Cynghorwyr Budd-daliadau Macmillan yn ardal ein Bwrdd Iechyd yma i helpu ac yn cael eu hyfforddi mewn ceisiadau budd-daliadau, yn ogystal â gallu cefnogi ar faterion ariannol eraill gan gynnwys pensiynau, dyledion, apeliadau, morgeisi, yswiriant, grantiau, a cheisiadau am fathodynnau glas.

Atgyfeirio

Mae unrhyw glaf, neu ofalwr o glaf, sy'n derbyn triniaeth canser o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn gymwys am gymorth gan y Tîm Budd-daliadau Lles. Mae modd cysylltu â nhw ar y manylion isod.

Rhif Ffôn: 01873 733151

E-bost: macmillan.benefits.abb@wales.nhs.uk

Cymorth Pellach

Gall yr elusennau canlynol gynnig cyngor ar eich taith canser, gan gynnwys effeithiau emosiynol a chorfforol canser, yn ogystal â'ch cyfeirio at feysydd ar gyfer cymorth ariannol.

Os ydych yn teimlo bod angen mwy o wybodaeth neu gymorth arnoch, cysylltwch â'ch tîm gofal iechyd i gael cyngor neu gymorth.