Neidio i'r prif gynnwy

Gofalu Amdanoch Chi a'ch Dyfodol

Dyfodol Clinigol yw cynllun y Bwrdd Iechyd ar gyfer gwasanaethau iechyd a gofal cynaliadwy ar gyfer y GIG cyfan ar draws ardal Gwent.
 
Dysgwch fwy am ddewis y gwasanaethau iechyd cywir, y tro cyntaf, yn yr animeiddiad byr hwn..
 

                            

 

Gallwch ddarllen rhagor o wybodaeth am y newidiadau hyn yn ein llyfryn gwybodaeth Dyfodol Clinigol a'r chyfres o Daflenni Gwybodaeth isod.

Ein nod yw darparu gofal diogel o ansawdd uchel a darparu cymaint o hyn gartref, neu mor agos i'r cartref, â phosibl. Fel Bwrdd Iechyd, ein nod yw gwella iechyd a lles y boblogaeth yr ydym yn ei gwasanaethu, lleihau anghydraddoldebau iechyd, a sicrhau cynaliadwyedd ein system gofal iechyd GIG.
 
Rydyn ni eisoes wedi gwneud rhai newidiadau mawr i'r ffordd rydyn ni'n darparu ein gwasanaethau - ac efallai eich bod chi eisoes wedi profi derbyn eich gofal iechyd mewn ffordd wahanol. Rydyn ni wedi symud nifer o wasanaethau yn agosach at ble rydych chi'n byw. Byddwn yn parhau i newid y ffordd yr ydym yn darparu ein gwasanaethau, gan sicrhau bod y cleifion yng nghanol popeth a wnawn a phob penderfyniad a wnawn.
 
Ar y tudalennau hyn, gallwch ddarganfod mwy am sut mae ein rhaglen Dyfodol Clinigol yn newid y ffordd y mae gofal iechyd yn cael ei ddarparu yng Ngwent. Mae gennym tudalennau dynodedig i adlewyrchu'r newidiadau sydd ar waith yn Ysbyty Athrofaol Y Faenor, Ysbyty Brenhinol Gwent, Ysbyty Nevill Hall ac Ysbyty Ystrad Fawr. Bydd Hysbytai eraill (gan gynnwys Ysbyty Aneurin Bevan, Ysbyty Gwynllyw, Ysbyty Cymunedol Cas Gwent ac Ysbyty'r Sir) yn parhau i ddarparu gwasanaethau fel yr arfer.
 

Pam fod angen i wasanaethau ein GIG newid?

O ganlyniad i'r datblygiadau mewn gofal iechyd, mae llawer ohonom bellach yn byw yn hirach ac yn byw bywydau llawer mwy egnïol.
 
Yn ddealladwy, gall heneiddio arwain at ystod o afiechydon a heriau iechyd. Mae'r Bwrdd Iechyd bellach yn trin mwy o bobl nag erioed o'r blaen ac o ganlyniad mae angen i ni newid sut rydyn ni'n gofalu am bobl a'u cefnogi i ddiwallu'r anghenion newidiol hyn yn well.
 
Er mwyn cynnal gwasanaethau diogel a chynaliadwy i gymunedau lleol, mae angen i ni gael y staff iawn yn y lle iawn i gynnig y safonau gofal uchaf un i'n cleifion.
 

Ein Model Newydd o Ofal Iechyd

Rhoddir y graffig isod trosolwg o sut y mae ein system gofal iechyd newydd yn edrych: