Neidio i'r prif gynnwy

Canolfan Serennu i Blant

Croeso i'n canolfan integredig unigryw, gyffrous i blant.
 
Ein nod yw darparu gwasanaeth proffesiynol a chyfeillgar o ansawdd uchel yma yn Serennu ym mhopeth a wnawn i gynnwys triniaeth, gofal a darparu gweithgareddau hamdden.
 
Agorodd Canolfan Blant Serennu ym mis Ebrill 2011. Mae'r ganolfan yn ganolfan bwrpasol sy'n darparu gofal, triniaeth a gweithgareddau i blant a phobl ifanc ag anableddau ac anawsterau datblygu o Gasnewydd, De Sir Fynwy a De Torfaen.
 
Un o brif buddion Serennu yw darparu gwasanaethau triniaeth, gofal, gwybodaeth, ymgynghoriadau a hamdden o dan yr un to. Mae hyn yn lleddfu'r baich ar deuluoedd unigol ac yn darparu gofal parhaus i'r plant.
 
Yr egwyddor arweiniol ar gyfer Serennu yw sicrhau bod plant anabl a'u teuluoedd o bob cymuned yn cael cefnogaeth lawn i gymryd rhan mewn profiadau plentyndod gwerthfawr a chael mynediad at yr un ystod o gyfleoedd, profiadau bywyd, gwasanaethau a chyfleusterau prif ffrwd a chymunedol â phlant eraill a'u teuluoedd.
 
Mae cyfleusterau'r ganolfan yn cynnwys:
  • Sawl ystafell ymgynghori i bediatregwyr i redeg clinigau
  • Cyfleusterau hydrotherapi pwrpasol
  • Cyfleusterau campfa ffisio ar gyfer triniaeth unigol a grŵp
  • Ystafelloedd triniaeth mawr ar gyfer grwpiau sgiliau pêl-droed a beic
  • Ystafell dechnoleg arbenigol
  • Cyfleusterau Awdioleg arbenigol a Iaith a Lleferydd
  • Cyfleusterau teulu a brodyr a chwiorydd
  • Ystafell Synhwyraidd o'r radd flaenaf
  • Cyfleusterau plastro, sblintio ac orthotig
  • Ystafell ADL i asesu'r potensial ar gyfer byw â chymorth ac yn annibynnol
  • Ystafelloedd triniaeth bach ar gyfer triniaeth unigol
  • Cyfleusterau hyfforddiant cadeiriau olwyn
  • MediCinema 3D
  • Cyfleusterau hamdden a chwarae gan gynnwys Ardal Gemau Aml-ddefnydd (MUGA)
Nid yw 'Serennu' yn ymwneud yn unig â'r driniaeth y mae'r plant a'r bobl ifanc yn ei derbyn; mae'r ganolfan yn darparu gwasanaethau teulu-ganolog i ddiwallu anghenion rhieni hefyd. Trwy ddefnyddio'r cyfleusterau MediCinema a hamdden, mae'r ganolfan yn helpu teuluoedd i allu cymdeithasu a mwynhau ystod o weithgareddau mewn amgylchedd cefnogol.
Os ydych am siarad am unrhyw faterion sy'n ymwneud â'r ganolfan, yna mae croeso i chi gysylltu â: Donna.colwill@wales.nhs.uk ; 01633 748001