Rydym yn eithriadol o falch cael cyhoeddi ein bod bellach wedi cyrraedd carreg filltir arbennig o roi 600,000 o frechiadau (cyfuniad o’r brechlyn cyntaf a’r ail)!
Rydym mor falch o’n timau brechu yn ein meddygfeydd GP, Timau Symudol a Chanolfannau Brechu Torfol, yn ogystal â’r rhai sy’n gweithio y tu ôl i’r llenni, sy’n gweithio mor galed i frechu pobl mor ddiogel a chyflym â phosib ledled ardal ein Bwrdd Iechyd.
Hoffem ddiolch i’r cyhoedd am eu hamynedd parhaus, eu dealltwriaeth a’u cefnogaeth barhaus hefyd wrth i ni weithio trwy ein rhestrau o flaenoriaeth ar gyfer y dosau cyntaf a’r ail.
Sylwch, oherwydd Gwŷl y Banc, cyhoeddir ein Cylchlythyr Brechu nesaf ddydd Mawrth.