Ar Awst 30ain, dadorchuddiodd Nathan Wyburn ei waith diweddaraf yng Nghanolfan Iechyd a Lles Bevan yn Nhredegar. Mae’r gampwaith, sydd bellach yn ganolbwynt amlwg ym mynedfa’r Ganolfan, yn bortread o sylfaenydd y GIG a’r arwr lleol, Aneurin Bevan. Mae’r gwaith celf hwn wedi’i greu mewn modd unigryw gan ddefnyddio delweddau sy’n olrhain hanes cyfoethog Tredegar.
Meddai Nathan Wyburn:
“Mae cymaint yn ymwneud â’r darn hwn. Es i nifer o ysgolion lleol a bum yn siarad â haneswyr lleol. Mae popeth yma, o egluro tarddiad yr enw Tredegar, i’r diwydiannau lleol, y brigiad o achosion colera, i’r bobl berthnasol a lleol sydd yma ar hyn o bryd.”
Yn ogystal â’r portread, mae Nathan hefyd wedi dylunio’r cerflun Rhosyn Aneurin Bevan sydd wedi’i leoli yng ngardd lles y ganolfan. Mae’r rhosyn dur hwn yn ymgodi o’r lludw ac mae wedi’i wneud o ddeunyddiau lleol, gan symboleiddio twf y GIG o hanes diwydiannol y rhanbarth. “Mae’r cerflun hwn yn portreadu harddwch tyfu trwy’r tywyllwch,” eglurodd Wyburn. “Mae’n rosyn dur sy’n ffrwydro trwy rwbel hen friciau, glo, rhawiau a chadwynau a wnaed yn Nhredegar a Glyn-ebwy.”
Mynegodd Nathan y balchder y mae’n ei deimlo o allu cyfrannu at y ganolfan, gan nodi ei gred yng ngrym therapiwtig celf. “Rwyf wir yn credu mewn celf yng nghyd-destun iechyd a lles, felly gobeithio y bydd yn cael effaith bositif ar eich taith wrth i chi ymweld â’r adeilad.” meddai “Rwy’n fachgen lleol ac felly rwy’n teimlo mai braint ac anrhydedd oedd cael gwahoddiad i gynhyrchu y gwaith celf hwn.”
Canmolodd Nicola Prygodzicz, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan y gwaith celf sydd wedi’i osod,
“Rydym ar ben ein digon gyda’r gwaith celf y mae Nathan wedi’i greu ar gyfer Canolfan Iechyd a Lles Bevan yn Nhredegar,” meddai. ”Mae’n nodwedd bwysig a hynod o’r adeilad sy’n crisialu treftadaeth Tredegar.”
Mae canolfan Iechyd a Lles Bevan yn darparu amrywiaeth o wasanaethau gofal sylfaenol, ac yn dod â gofal iechyd hanfodol yn nes at y cartref ar gyfer y gymuned leol.