Pan Ysbyty Athrofaol Y Faenor yn agor ar 17 eg Tachwedd 2020, bydd yr arwyddion ffordd sy'n cyfeirio pobl at ein hysbytai yn newid.
Bydd arwyddion 'Damweiniau ac Achosion Brys' yn cyfeirio pobl i Ysbyty Athrofaol newydd y Faenor gan mai hon fydd yr unig Adran Achosion Brys yn ardal Gwent.
Fe welwch arwyddion 'Uned Mân Anafiadau' yn disodli'r arwyddion presennol ar ffyrdd o amgylch ein Ysbytai Cyffredinol Lleol gwell- Ysbyty Brenhinol Gwent, Nevill Hall, ac Ysbyty Ystrad Fawr.
I gael mwy o wybodaeth am y newidiadau i wasanaethau'r GIG ar draws Gwent, ewch i'n tudalennau gwe Dyfodol Clinigol.