Mae'r Athro Tracy Daszkiewicz yn dechrau tymor fel Llywydd Cyfadran Iechyd y Cyhoedd ochr yn ochr â'i rôl bresennol.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn falch o gyhoeddi bod yr Athro Tracy Daszkiewicz, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd Cyhoeddus a Phartneriaethau Strategol yng Ngwent, wedi dechrau ei thymor tair blynedd fel Llywydd Cyfadran Iechyd y Cyhoedd (FPH)yn swyddogol.
Mae'r Athro Daszkiewicz yn ymgymryd â'r rôl genedlaethol flaenllaw tra’n parhau i wasanaethu cymunedau Gwent fel Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd. Mae hyn yn dyst i’w hymroddiad diwyro i wella iechyd y boblogaeth yng Ngwent, y DU ac yn rhyngwladol.
Ar ôl gwasanaethu fel Is-Lywydd y Gyfadran ers 2022, mae'r Athro Daszkiewicz yn dod â phrofiad traws-sector helaeth i'r llywyddiaeth. Mae wedi arwain o fewn y GIG, y gwasanaeth sifil, llywodraeth leol, a'r sector gwirfoddol, ac mae hyn yn ei gwneud yn llais uchel ei pharch o ran mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd a gwella canlyniadau iechyd y cyhoedd.
Wrth sôn am ei phenodiad, dywedodd yr Athro Daszkiewicz:
“Rwy’n ddiolchgar ac yn falch iawn o ymgymryd â rôl Llywydd Cyfadran Iechyd y Cyhoedd, a braint yw gwybod bod aelodau’r Gyfadran yn rhoi eu hymddiriedaeth a’u hyder ynof.
“Rwy’n camu i’r rôl hon ar adeg heriol i iechyd y cyhoedd. Ar draws pedair gwlad y DU a thu hwnt, rydym yn wynebu problemau sy’n dod yn fwy ac yn fwy cymhleth a chydgysylltiedig gan gynnwys anghydraddoldebau iechyd parhaus sy’n gwaethygu, argyfwng hinsawdd sy'n dyfnhau'n barhaus, gwrthdaro byd-eang, hiliaeth, iechyd meddwl y cyhoedd yn dirywio, a llanw cynyddol o glefydau anhrosglwyddadwy.
“Rhaid inni ymdrechu i sicrhau bod gan bob unigolyn, waeth beth fo’u cefndir neu eu hamgylchiadau, fynediad at yr adnoddau sydd eu hangen arnynt i fyw bywydau iach a boddhaus.
“Ac mae’n rhaid i’n hymrwymiad i degwch ymestyn i’n gweithlu iechyd cyhoeddus ymroddedig. Mae sicrhau bod gan ein teulu iechyd cyhoeddus gyfarpar a chefnogaeth a sicrhau eu bod yn cael eu gwerthfawrogi yn hanfodol er mwyn cyflawni ein nodau cyffredin. Mae hynny'n golygu hyrwyddo lles y gweithlu, eiriol dros gydraddoldeb o ran parch, a sicrhau bod gennym weithlu ffyniannus, amrywiol, sy’n cael eu cefnogi’n briodol, un sydd yn meddu ar y cyfarpar i ddiwallu anghenion heddiw ac sy’n barod ar gyfer heriau mawr iechyd y cyhoedd yn y dyfodol.
“Yn ystod y tair blynedd nesaf, rwy’n edrych ymlaen at weithio ochr yn ochr ag aelodau’r Gyfadran i gyflawni ein cyd -flaenoriaethau —cryfhau’r gweithlu a’r system iechyd cyhoeddus, eiriol dros bolisi iechyd cyhoeddus cadarn, a chefnogi gwaith i fynd i’r afael ag achosion sylfaenol anghydraddoldebau iechyd gyda phob sector ac ar draws pob sector.”
“Ar yr un pryd, rwy’n parhau i fod wedi ymrwymo’n llwyr i’n gwaith parhaus a hanfodol yng Ngwent i leihau anghydraddoldebau a gwella canlyniadau iechyd i’n cymunedau.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn llongyfarch yr Athro Daszkiewicz ar y penodiad haeddiannol hwn ac yn edrych ymlaen at deimlo effaith barhaus ei harweinyddiaeth o fewn Gwent ac ar draws y gymuned iechyd cyhoeddus ehangach.