Llwyddodd claf sydd yn wythnosau olaf ei fywyd i gyflawni un o'i ddymuniadau olaf trwy briodi ei bartner hir dymor yr wythnos diwethaf, wrth i'r Tîm Gofal Lliniarol a Ward 4/3 yn Ysbyty Nevill Hall drefnu eu priodas ar y ward.
Priododd y claf, Garry Harper, ei bartner, Alison, yn Ysbyty Nevill Hall yn y Fenni ar Ddydd Iau 25 Tachwedd 2021, gyda mam, tad, plant a dyn gorau Garry yno i fod yn dyst i'r seremoni.
Gan fynd y tu hwnt i'w rolau arferol, gwnaeth staff yn Ysbyty Nevill Hall 'gwaith hudol' - yng ngeiriau Garry - i addurno'r ward ac i ddarparu cacen briodas a modrwyau priodas i sicrhau bod dymuniadau olaf Garry yn cael eu bodloni.
Wrth fyfyrio ar y briodas, dywedodd Garry “Mae Alison a minnau’n falch o gyhoeddi ein bod wedi mentro a heddiw gwnaethom briodi. Gan ein bod yn methu â gadael yr ysbyty, gwnaeth y tîm gofal lliniarol gwaith hudol a chyda chefnogaeth ward 4/3 yn Ysbyty Nevill Hall, gwnaethom briodi.
“Gwnaeth y Ward i’r Ystafell Ddydd edrych mor bert gyda baneri ac un o’r staff hyfryd yn gwneud rhai cacennau Rice Krispie ar stand a chacen ddathlu ynghyd â rhai diodydd dathlu. Roedd mor arbennig.
“Mae fy merch hyfryd Alison bellach yn Mrs Alison Harper yn swyddogol.”
Dywedodd Claire Harris, Nyrs Arweiniol ar gyfer Gofal Lliniarol:
“Gwnaeth staff Gofal Lliniarol a Ward 4/3 Ysbyty Nevill Hall ymdrech arbennig i wneud y digwyddiad hwn mor arbennig ag y gallent ar gyfer y cwpl ac mae'n enghraifft galonogol o staff yn dod at ei gilydd ac yn mynd yr ail filltir.”
Dywedodd Daniel Saunders, Rheolwr Ward yn Ward 4/3 Ysbyty Nevill Hall:
“Mae'r staff ar ein ward mor falch eu bod wedi gallu helpu i gyflawni un o ddymuniadau olaf Garry. Mae'r 18 mis diwethaf wedi bod yn amser anodd iawn i ni i gyd, ac wrth i ni barhau i weithio mewn amgylchiadau mor eithriadol, roedd bod yn rhan o ddigwyddiad mor hapus yn fraint enfawr.”
Llongyfarchiadau i'r cwpl, roedd ein staff mor falch o allu gwneud eich diwrnod mor arbennig!
Yn y llun isod chw-dde: Garry ar ddiwrnod ei briodas; Garry a'i wraig ar ddirnod eu priodas