Dydd Mercher 9 Awst 2023
Mae tîm anestheteg Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (BIPAB) ar flaen y gâd yn eu dulliau addasol i arbed costau a lleihau allyriadau trwy annog edrych i mewn i ba offer y gellir eu diffodd pan nad yw theatrau'n cael eu defnyddio.
Hawdd iawn yw anghofio effaith ein technoleg a’n dyfeisiau ar yr amgylchedd pan maent yn gymaint o ran o’n bywyd bob dydd. Fodd bynnag, er bod adeiladau’r bwrdd iechyd wedi newid dros y blynyddoedd, erys rhai elfennau o’n defnydd o ynni, ac weithiau y cyfan sydd angen ei wneud yw cofio diffodd pethau.
Dywedodd Jenna Stevens, Anesthetydd Ymgynghorol, Arweinydd Cynaliadwyedd ac Arweinydd Clinigol ar Fwrdd Datgarboneiddio BIPAB, “Mae 80% o ôl troed carbon mewn theatr yn dod o'i defnydd o ynni.”
Mae’r timau anestheteg eisoes wedi gwneud newidiadau mawr gyda Dr Rachel Walpole, James Florence, a chydweithwyr a fu’n arwain y ffordd cyn hyn o roi’r gorau i ddefnyddio’r nwy Desflurane a oedd yn hynod lygrol.
Rhan bwysig o’r newid diweddaraf hwn sydd wedi digwydd yw cau systemau Glanhau Nwyon Anesthetig tu hwnt i oriau gwaith.
Dywedodd Tom Woodhouse, Cymrawd Clinigol mewn Cynaliadwyedd, “Cyfres o bympiau yw’r systemau hyn sy’n gwaredu nwyon niweidiol o amgylchedd y theatr ond mae’n broses sy’n defnyddio llawer o ynni, felly rydym yn ceisio lleihau eu defnydd pan nad oes eu hangen.”
Wrth ystyried systemau glanhau nwyon anesthetig yn unig, bydd diffodd y systemau y tu hwnt i oriau gwaith yn arbed oddeutu £40,000-50,000 a 40 tunnell o allyriadau CO2 yn flynyddol ac mae’n debyg y bydd y ffigurau hyn yn cynyddu wrth i gostau ynni amrywio.
Wrth gwrs, nid yw’n hawdd diffodd yr holl ddyfeisiau ac offer o’u gosodiadau hanesyddol ac ambell dro mae’n ofynnol i’r ddyfais gael ei rhedeg yn barhaol. Enghraifft o hyn yw system awyru’r theatr neu’r switsh sy’n cau’r theatrau i gyd a oedd yn bwynt cyswllt canolog pan osodwyd ef yn wreiddiol.
Er gwaethaf rhai cyfyngiadau, mae’r neges a gyflwynir gan Jenna a Tom yn glir sef bod pob ymdrech yn gymorth i leihau’r allyriadau ac yn arbed costau, ac wrth gydweithio, rydym yn obeithiol y bydd modd inni gyrraedd ein nod o fod yn garbon sero net erbyn 2030.
Dywedodd Tom yn galonogol: “Wrth godi ymwybyddiaeth o'r sefyllfa, efallai y bydd pobl yn edrych ar eu hardal eu hunain ac yn llwyddo i wneud arbedion fel sy’n digwydd yma.”
Ychwanegodd Jenny: “Rydym i gyd bellach yn fwy ymwybodol o’n defnydd o ynni yn y cartref, ac yn sicrhau ein bod yn diffodd pethau pan nad ydynt yn cael defnydd. Felly, os allwn wneud hynny yn y gweithle hefyd, rwy’n gobeithio y gellir gwneud arbedion. Mae’n ofynnol inni gydweithio fel tîm, i wneud y newidiadau, a gwneud Cymru’n fwy gwyrdd.”