Neidio i'r prif gynnwy

Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019

Rhybudd yn unol ag a24 (3) o'r Ddeddf uchod.

 

Mae Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru wedi ymchwilio i gŵyn ac wedi canfod methiant gwasanaeth gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (“y Bwrdd Iechyd”) ac wedi anfon adroddiad ar ganlyniadau ei ymchwiliad i’r Bwrdd Iechyd. Roedd y gŵyn yn ymwneud â:

 

  • Methu â diagnosio canser Mr X yn gywir rhwng mis Chwefror a mis Mehefin 2018.
  • Nid oedd Mr X yn gallu gwneud dewis gwybodus ynghylch ei driniaeth gan gynnwys ei fod wedi cael triniaeth lawfeddygol.
  • Yr oedi cyn cael diagnosis cywir Mr X (tan fis Rhagfyr 2018) a'i driniaeth lawfeddygol ddiangen, a effeithiodd ar ansawdd ei fywyd a'i prognosis.

 

Mae copi o'r adroddiad ar gael drwy'r ddolen isod am gyfnod o 3 wythnos o Ddydd Mercher 3 Chwefror 2021. Oherwydd y cyfyngiadau Coronafeirws cyfredol, dim ond ar y wefan y bydd yr adroddiad ar gael.

 

Gall unrhyw un sy'n dymuno cymryd copi o'r adroddiad hwn neu wneud darnau ohono. Darperir llungopïau o'r adroddiad neu rannau ohono yn ddi-dâl.

 

Judith Paget

Prif Weithredwr