Mae’r wythnos hon yn dechrau rhai sgyrsiau pwysig ynghylch cyflyrau sy’n cyfyngu ar egni (ME/CFS, Covid Hir/Salwch Ôl-Feirysol a Ffibromyalgia).
Heddiw yw Diwrnod Ymwybyddiaeth Enseffalomyelitis Myalgig (ME/CFS) y Byd a Diwrnod Ymwybyddiaeth Ffibromyalgia’r Byd, ac yna trwy gydol yr wythnos rhwng 12 a 18 Mai yw Wythnos Ymwybyddiaeth ME.
Mae’r cyflyrau hyn yn achosi symptomau parhaus gan gynnwys teimlo’n sâl neu deimlo anhwyldeb, bod wedi blino’n lân/wedi ymlâdd, poen, niwl yr ymennydd, diffyg anadl a chysgu gwael. Gallant effeithio ar bob rhan o fywydau pobl, ond mae’r symptomau’n aml yn gudd ac nid ydynt bob amser yn cael eu deall yn dda.
Mae ein Gwasanaeth Rheoli Symptomau ar gyfer pobl sy’n byw gyda ME/CFS (Enseffalomyelitis Myalgig/Syndrom Blinder Cronig), Covid Hir/ Salwch Ôl-feirysol a Ffibromyalgia bellach ar agor ac ar gael i’ch cefnogi chi gydag unrhyw un o’r symptomau a grybwyllwyd. Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am ein gwasanaeth a sut i gyfeirio eich hun ar ein tudalen we yma: https://bipab.gig.cymru/ysbytai/a-y-o-wasanaethau/gwasanaeth-rheoli-symptomau/
Isod mae rhai sylwadau gan drigolion a fu mor garedig â rhannu eu profiadau wrth ddefnyddio ein gwasanaethau:
Fiona
“Rwyf wedi bod yn dioddef o ME am 27 mlynedd ac rwy’n gwneud llawer o waith ymchwil, felly rwyf yn gwybod y cyfan! Roedd yn chwa o awyr iach ac yn emosiynol clywed gweithwyr proffesiynol sydd mor wybodus, empathetig a brwdfrydig. Mae gen i ofn mawr fy mod yn gwneud y cyfan yn anghywir, felly mae hyn yn rhoi ychydig o hyder i mi y gallaf wella fy sefyllfa, ac rwy'n sicr y bydd eraill yn teimlo'r un peth.”
Susie
“Mae wedi bod yn gyfnod anodd, ond rwy’n falch o gael gwybod beth sydd o’i le. Rwyf mewn poen trwy’r amser, ond mae’r gwasanaeth wedi bod yn wych, ac mae wedi fy helpu i ddeall nad yw’r cyfan yn fy mhen. Bob amser yr oeddwn yn darllen pethau ar y we, roeddwn yn cael gwybodaeth wahanol, ond fe wnaethoch roi’r wybodaeth gywir i mi allu deall Ffibromyalgia.”
David
“Mae fy ngwaith gyda’r tîm wedi bod yn anhygoel. Mae eu dealltwriaeth o fy nghyflyrau a fy nheimladau wedi bod o gymorth mawr wrth geisio fy helpu i dderbyn fy anabledd newydd. Trafodwyd meddwlgarwch a gwneud tasgau’n raddol, ac mae hynny wedi bod yn help aruthrol.”
Lucy
“Mae’r cwrs rheoli egni wedi fy helpu i feddwl am reoli egni yn fwy fel hafaliad y mae angen ei gydbwyso ac ystyried lle i arbed egni ar dasgau. Roedd y cyngor i gadw dyddiadur egni yn arbennig o ddefnyddiol i mi.”
Yn ddiweddarach eleni, byddwn yn cynnwys rhai straeon gan ein trigolion sy’n byw gyda’r cyflyrau hyn.
Rydym hefyd yn lansio ein cymuned cyd-gynhyrchu i lunio’r gwasanaeth gyda’n gilydd. Cysylltwch â ni os hoffech gymryd rhan: Abb.symptommanagementservice@wales.nhs.uk
Os oes gennych unrhyw symptomau newydd neu anesboniadwy, ceisiwch gyngor gan eich Meddyg Teulu neu ffoniwch 111.