Neidio i'r prif gynnwy

"Doedd dim angen ymweliad â'r ysbyty arnaf – Gofalodd fy optegydd lleol amdanaf"

Dydd Iau 29 Ionawr 2026

Mae gofal y llygad yng Nghymru yn esblygu. O dan Wasanaethau Offthalmig Cyffredinol Cymru (WGOS), mae optometreg bellach yn mynd y tu hwnt i brofion golwg sylfaenol, gan roi mynediad cyflymach i chi at driniaeth arbenigol yn eich cymuned. Gall llawer o gyflyrau’r llygaid a oedd unwaith yn golygu taith i'r ysbyty bellach gael eu hasesu a'u trin gan optometryddion sydd wedi'u hyfforddi'n arbennig yn eich optegydd lleol. Mae hyn yn golygu apwyntiadau cyflymach, gofal arbenigol, a'r cysur o gael eich gweld yn agos at adref.  

Stori Neirin:

"Yn gynharach eleni, sylwais ar 'floater' mawr yn fy llygad dde nad oedd wedi bod yno o'r blaen. Roedd yn fy mhoeni, felly gofynnais i optometrydd a ddylwn i gael rhywun i edrych arno. Dywedon nhw wrthyf ei bod yn bwysig diystyru problemau difrifol megis datgysylltiad y retina. Beth wnaeth fy synnu fwyaf? Doedd dim angen i mi fynd i'r ysbyty nac aros wythnosau am apwyntiad. Yn lle hynny, cefais fy ngweld yn gyflym gan optometrydd wedi'i hyfforddi'n arbennig yn fy optegydd lleol yn Rhisga, cam neu ddau o’m cartref.

Roedd y practis yn dawel ac yn groesawgar ac roedd yr asesiad yn drylwyr. Gan fod hwn yn apwyntiad brys, nid oedd angen talu amdano.

Diolch byth, roedd popeth yn iawn. Yr unig gyngor oedd ganddynt oedd bod y diferion llygaid a ddefnyddiwyd ganddynt yn ystod yr apwyntiad yn golygu nad oeddwn yn gallu gyrru am ychydig oriau, ond nid oedd hynny'n broblem gan fy mod wedi cerdded adref!"  

Nid oes angen ymweliad ysbyty arnoch bob amser ar gyfer problemau llygaid. Gall optometryddion arbenigol yn eich cymuned leol reoli a thrin llawer o gyflyrau bellach. Mae'n gyflymach, yn haws, ac yn agosach at adref.  

Mae optegwyr lleol bellach yn cynnig mwy na phrofion llygaid yn unig - Floaters? Golwg aneglur? Newidiadau sydyn? Cysylltwch â'ch optegydd lleol i gael gofal cyflym, proffesiynol yn eich cymuned.