Neidio i'r prif gynnwy

Dyfarniad y Goruchaf Lys

Dydd Gwener 2il Mai 2025

Yn dilyn Dyfarniad ddiweddar y Goruchaf Lys, mae'r Bwrdd Iechyd am ailddatgan i'n cymunedau ein bod yn parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i ddarparu gofal parchus, diogel, a chynhwysol i bawb.

Rydym yn parhau i sefyll gyda phobl drawsryweddol a'u cefnogi — ein cleifion, staff, a'r gymuned ehangach — ac rydym yn deall pa mor bwysig yw hi bod pawb yn teimlo eu bod yn cael eu gweld, eu gwerthfawrogi, a'u bod yn ddiogel wrth ddefnyddio ein gwasanaethau. Rydym hefyd yn cydnabod bod llawer o fenywod yn dibynnu ar fannau un rhyw am eu hymdeimlad o urddas, preifatrwydd a diogelwch.

Rydym yn gwybod bod y rhain yn faterion sensitif sy'n effeithio ar fywydau go iawn, a byddwn yn cymryd amser i adolygu ein polisïau'n ofalus fel eu bod yn adlewyrchu'r gyfraith a'n hymrwymiad dwfn i degwch, caredigrwydd a thrugaredd.

Ein hegwyddor arweiniol bob amser fydd gweithredu er budd gorau unigolion — cydbwyso hawliau lle bo angen, gwrando gydag empathi, a sicrhau bod pawb yn derbyn y gofal sydd ei angen arnynt ac sydd yn eu haeddu.