Neidio i'r prif gynnwy

Goroeswyr Canser Serfigol o Went yn Annog Eraill i Gymryd Profion Ceg y Groth Trwy Rannu eu Stori

Mae dwy fam o Went a gafodd ddiagnosis o ganser serfigol yn annog menywod i fynychu eu profion ceg y groth a allai achub eu bywydau.

Mae Rachel ac Elizabeth, y ddwy o Went, wedi rhannu eu straeon fel rhan o Wythnos Atal Canser Serfigol sy'n ceisio codi ymwybyddiaeth o risgiau canser serfigol a sut y gellir atal y salwch.

Yn 2019, roedd Rachel, 44 oed, yn dioddef o boen yn yr abdomen a gwaedu afreolaidd rhwng ei mislif, ond diystyrodd y symptomau gan gredu mai arwyddion cynnar y menopos oeddynt. Ar ôl mynychu prawf ceg y groth arferol y flwyddyn honno, canfuwyd newidiadau i'r celloedd a chafodd ei chyfeirio at ymchwiliadau pellach. Ar ôl darganfod newidiadau difrifol i gelloedd, cadarnhaodd biopsi fod gan Rachel ganser ceg y groth cam 1b. Gyda dau o blant ifanc gartref, roedd Rachel yn ofni'r gwaethaf pan gafodd ei diagnosis.

Dywedodd Rachel:

"Dw i'n cofio'r nyrs yn dweud ei bod modd ei wella, ond y cyfan y gallwn i feddwl oedd, 'O Dduw, mae hyn yn digwydd, mae hyn yn digwydd go iawn,' dro ar ôl tro. Ar ôl sgan MRI, dywedwyd wrthyf y byddai angen hysterectomi radical a thynnu nodau lymff arnaf.

“Tair wythnos ar ôl y driniaeth, es i am fy apwyntiad cleifion allanol i gael fy nghanlyniadau. Roeddwn i mor nerfus, ond cyn i mi hyd yn oed eistedd i lawr, gwenodd y llawfeddyg a dweud, 'Newyddion da, gyda llaw.' Dangosodd yr adroddiad histoleg i mi, a oedd yn cadarnhau nad oedd angen triniaeth bellach.

“Rwyf mor ddiolchgar i’r tîm llawfeddygol. Prynais flodau hefyd i'r nyrs yn fy meddygfa a wnaeth fy mhrawf ceg y groth. Achubodd y prawf hwnnw fy mywyd."

Yn 2021, mynychodd Elizabeth, 46 mlwydd oed, ei hapwyntiad sgrinio ceg y groth arferol a chafodd ei chynghori i gael un arall ymhen blwyddyn gan fod ei chanlyniadau wedi dangos ei bod yn bositif am y Feirws Papiloma Dynol (HPV). ond heb unrhyw newidiadau i'r celloedd. Flwyddyn yn ddiweddarach, cymerodd amgylchiadau bywyd drosodd a methodd Elizabeth ei hapwyntiad sgrinio ceg y groth nesaf.

Ym mis Ionawr 2023, cafodd Elizabeth ei phrawf ceg y groth o'r diwedd. Y tro hwn, dangosodd ei chanlyniadau fod ganddi HPV a bod newidiadau i’r celloedd, ac felly cafodd ei chyfeirio'n syth i'r uned colposgopi yn Ysbyty Ystrad Fawr (YYF) am fiopsi. Dim ond pythefnos yn ddiweddarach, dywedwyd wrth Elizabeth fod ganddi ganser ceg y groth.

Yn dilyn ei diagnosis, cafodd Elizabeth gyfres o sganiau a phrofion i sicrhau nad oedd y canser wedi lledaenu ac yn ffodus, nid oedd wedi lledaenu. Ym mis Gorffennaf 2023, cafodd hysterectomi llawn.

Nawr, mae hi'n dychwelyd i'r uned colposgopi yn YYF ar gyfer gwiriadau rheolaidd i sicrhau ei bod hi'n glir o HPV.

Mae Elizabeth yn hynod ddiolchgar i'r tîm yn Ysbyty Ystrad Fawr am eu cefnogaeth a'u harbenigedd. Dywedodd: “Mae’r staff yn hyfryd. Rwy'n adnabod y tîm yn dda iawn nawr, maen nhw fel rhan o fy nheulu. Os ydw i byth yn poeni am unrhyw beth, rwy'n gwybod y gallaf eu ffonio nhw." 

Mae Rachel ac Elizabeth ill dau bellach yn gobeithio defnyddio eu profiadau i dynnu sylw at bwysigrwydd mynychu profion ceg y groth a chanfod canser ceg y groth yn gynnar.

Dywedodd Rachel:

"Rwy'n benderfynol y bydd rhywbeth da yn dod o'r profiad hwn. Rwy'n angerddol am godi ymwybyddiaeth o brofion ceg y groth ac yn ceisio dechrau sgyrsiau gyda menywod eraill - ffrindiau, cydweithwyr a theulu. O ganlyniad i rannu fy stori, mae saith menyw rwy'n eu hadnabod wedi trefnu eu prawf ceg y groth. 

"Wna i ddim gwadu bod canser wedi effeithio ar fy iechyd meddwl, ond dw i'n gwerthfawrogi pob dydd. Gall yr ôl effeithiau fod yn anodd, a dyna pam rwy'n credu ei bod mor bwysig gwneud amser i chi'ch hun a gorffwys pan fydd angen gorffwys arnoch chi. Er gwaethaf popeth, rydw i wedi ymdrechu’n galed iawn i aros yn bositif. Rwy'n atgoffa fy hun i werthfawrogi pob dydd a pharhau i wenu, hyd yn oed pan mae hynny’n teimlo'n anodd. 

Dywedodd Elizabeth: Mae'r profion sgrinio mor syml, ac mae'r nyrsys sy'n eu gwneud nhw wedi'u hyfforddi'n dda. Os ydych chi'n nerfus, gallwch chi fynd â rhywun gyda chi. Hyd yn oed os ydych chi wedi cael y brechlyn HPV, nid yw'n cwmpasu pob straen, felly mae mynychu eich apwyntiad sgrinio ceg y groth yn hanfodol.

"Rwy'n gwybod ei bod hi'n hawdd i fywyd gymryd drosodd, ac fel menywod, rydyn ni'n tueddu i roi pawb arall yn gyntaf, ond mae angen i chi wneud eich iechyd yn flaenoriaeth. Gallai fod yn rhywbeth sy’n achub eich bywyd."

Dywedodd Rachel:

“I unrhyw un nad ydynt wedi cael eu prawf ceg y groth eto - peidiwch â theimlo cywilydd. Byddwch yn ddewr ac ewch am brawf. Mae’n hynod bwysig.” 

Mae canser ceg y groth yn fath o ganser sy'n datblygu yng ngheg y groth, yr agoriad rhwng y fagina a'r groth, a elwir yn aml yn wddf y groth.

Gall effeithio ar unrhyw un sydd â serfics ac, er ei fod yn fwyaf cyffredin mewn menywod rhwng 30 a 35 oed, gall ddigwydd ar unrhyw oedran. Mae bron pob achos yn cael ei achosi gan haint â mathau penodol o'r feirws papiloma dynol (HPV).

Gellir lleihau'r risg drwy fynychu sgrinio ceg y groth yn rheolaidd (profion smear), sy'n ceisio canfod a thrin newidiadau celloedd annormal cyn iddynt ddod yn ganser. Fel arfer, mae canser serfigol yn datblygu'n araf, ac mae pa mor ddifrifol ydyw yn dibynnu ar ei faint, a yw wedi lledu, ac iechyd cyffredinol y claf.