Ar 29 Awst 2025, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y bydd rhaglen frechu varicella (brech yr ieir) rheolaidd yn cael ei chyflwyno yng Nghymru o Ionawr 2026 ymlaen. Bydd hyn yn dod yn rhan o drefn imiwneiddio plant cenedlaethol.
Mae’r penderfyniad yn dilyn cyngor Pwyllgor Cynghori ar Frechu ac Imiwneiddio (JCVI), a argymhellodd raglen unffurf ddwy-ddos gan ddefnyddio’r brechlyn MMRV cyfuniadol (measles, clwyr pennau, rwbela a varicella).
Mae varicella yn salwch cyffredin ond yn hynod heintus sy’n cael ei achosi gan firws varicella-zoster. Er ei fod fel arfer yn ysgafn, gall arwain at gymhlethdodau difrifol, yn enwedig mewn babanod, oedolion hŷn, a phobl â system imiwnedd wan. Mae tystiolaeth o wledydd eraill yn dangos bod brechu rheolaidd yn lleihau nifer yr achosion ac yn atal salwchdifrifol.
Byddwn yn rhannu mwy o wybodaeth a chanllawiau i rieni a gofalwyr dros y misoedd nesaf.
I ddarllen y datganiad llawn gan Lywodraeth Cymru, ewch i’r Datganiad Ysgrifenedig: Datganiad Ysgrifenedig: Cyflwyno rhaglen reolaidd i frechu rhag varicella (brech yr ieir) (29 Awst 2025) | LLYW.CYMRU