Mae gennym gymaint o barch ac rydym mor ddiolchgar i Gapten Syr Tom Moore am ei holl ymdrechion codi arian ar gyfer y GIG.
Mae'r arian a godir gan y Capten Syr Tom Moore yn cael ei ddosbarthu trwy Elusennau GIG Gyda'i Gilydd, a hyd yma, rydym wedi derbyn £230,000 gan Elusennau GIG Gyda'i Gilydd.
Diolch i’r arian a gawsom yn sgil ei holl waith caled, llwyddom i brynu eitemau a gwasanaethau cefnogol sy’n gwneud gwir wahaniaeth i lesiant ein staff a’n cleifion.
Mae hanner yr arian hwn yn cael ei ddefnyddio fel cymorth ychwanegol ar gyfer ein Gwasanaeth Llesiant Cyflogeion, drwy gefnogi ein staff i wella’n seicolegol, ac i addasu a chynnal eu hunain yn ystod y cyfnod hwn o heriau personol a phroffesiynol na welwyd mohonynt erioed o’r blaen.
Mae hanner arall yr arian a roddwyd wedi ei ddefnyddio i brynu amryw o eitemau i wella profiad ein cleifion a’n staff, gan gynnwys:
- Tabledi cyfrifiadurol i alluogi ein cleifion a’u teuluoedd i gadw mewn cysylltiad tra nad oes modd iddynt ymweld â’n wardiau.
- Radios a chwaraewyr CD i ddiddanu cleifion tra nad oes modd iddynt weld ymwelwyr, yn enwedig y cleifion hynny sydd mewn ystafelloedd sengl.
- “Coed Gobaith” wedi eu plannu ledled safleoedd y Bwrdd Iechyd er mwyn i staff, cleifion a’r cyhoedd fedru gosod eu negeseuon o obaith.
- Meinciau picnic wedi eu gosod yng ngerddi ein hysbytai i alluogi staff i gael rhywle brafiach i eistedd a chael seibiant haeddiannol yn yr awyr iach.
- Pecynnau gweithgaredd i blant rhag iddynt ddiflasu tra nad yw hi’n bosib iddynt weld ymwelwyr.
- Teclyn clyw i’w osod ar declyn cymorth clyw aelod o staff. Mae hwn yn gweithio fel meicroffon er mwyn medru cyfathrebu’n well, gan fod masgiau’n rhwystro pobl rhag medru gwefusddarllen.
Mae ein diolch yn enfawr i Gapten Syr Tom Moore am alluogi i ni brynu’r eitemau hanfodol hyn.