Neidio i'r prif gynnwy

Uned Radiotherapi Newydd yn Dod â Gofal Canser yn Agosach at Adref i Drigolion Gwent

Mae Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn falch o gyhoeddi bod Uned Radiotherapi Felindre @ Nevill Hall wedi agor yn swyddogol, cyfleuster o'r radd flaenaf sydd wedi’i gynllunio i wella gofal canser ar draws De Ddwyrain Cymru.

Agorwyd yr uned, sydd wedi bod yn gweld cleifion ers mis Mehefin, yn ffurfiol yr wythnos hon gan Jeremy Miles AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, mewn seremoni a fynychwyd gan staff a chleifion.

Mae'r cyfleuster gwerth £38 miliwn, sydd wedi'i leoli yn Ysbyty Nevill Hall yn y Fenni, yn cynnig triniaethau radiotherapi o'i ddau beiriant cyflymydd llinellol uwch. Mae'r Uned yn gofalu am gleifion canser y fron, canser y prostad a radiotherapi lliniarol, sy'n bodloni set o feini prawf clinigol. 

Mae’r Uned yn cael ei staffio gan dîm ymroddedig o arbenigwyr Gwasanaeth Canser Felindre, ac yn gweithredu fel petai'n adeilad neu'n uned yng  Nghanolfan Ganser Felindre yng Nghaerdydd, a bydd yn cynyddu capasiti radiotherapi yn y rhanbarth hyd at 20%, ac yn helpu i ateb y galw cynyddol a lleihau amseroedd teithio i gleifion.

Wrth wneud sylwadau ar yr uned newydd, dywedodd Jeremy Miles AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: “Mae agor yr uned radiotherapi hon yn foment drawsnewidiol i ofal canser yng Nghymru. Mae'r buddsoddiad o £38 miliwn gan Lywodraeth Cymru yn dangos ein hymrwymiad i sicrhau y gall pobl gael mynediad at driniaeth o'r radd flaenaf yn agosach at adref, a lleihau'r angen i deithio yn ystod cyfnod sydd eisoes yn heriol iawn.

“Mae hwn yn gam sylweddol ymlaen yn y gwaith o ddatblygu rhaglen ranbarthol GIG Cymru ar gyfer gwasanaethau canser a gwella mynediad at radiotherapi, yn enwedig i bobl sydd â chanser y prostad a chanser y fron.

"Drwy ddod â byrddau iechyd ac Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre at ei gilydd, rydym wedi creu uned driniaeth ranbarthol a fydd yn gwasanaethu cymunedau ar draws De Ddwyrain Cymru a Phowys am genedlaethau i ddod."

Meddai David Donegan, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre: “Wrth i ni barhau i weld cynnydd yn nifer yr achosion o ganser ar draws Cymru, gyda dros 20,000 o achosion newydd yn cael eu diagnosio bob blwyddyn, dydy’r angen am gapasiti radiotherapi gwell erioed wedi bod yn fwy acíwt.

"Mae cyflwyno'r gwasanaeth newydd hwn yn gam sylweddol ymlaen yn ein hymrwymiad i ddarparu triniaethau canser amserol ac effeithiol.

"Bydd ehangu Gwasanaeth Canser Felindre nid yn unig yn ein helpu i ateb y galw cynyddol gyda'r offer diweddaraf ond hefyd, yn sicrhau bod cleifion addas yn gallu derbyn y gofal arbenigol hwn yn agosach at adref mewn lleoliad pwrpasol yn y Fenni."

Mae agor Uned Radiotherapi Felindre @ Nevill Hall yn nodi buddsoddiad sylweddol yn nyfodol gofal canser yng Nghymru, ac yn sicrhau y gall mwy o gleifion gael mynediad at driniaeth sy'n achub bywydau yn agosach at ble maen nhw'n byw.

Ychwanegodd Nicola Prygodzicz, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan: Rydym yn falch iawn o fod wedi gweithio mewn partneriaeth gydag Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre i roi'r gwaith gwych sydd yn cael ei wneud yng Ngwasanaeth Canser Felindre ar waith yn y cyfleuster newydd sbon yma yng Ngwent.

"Mae'r uned hon yn cynrychioli carreg filltir bwysig yn ein cenhadaeth gyffredin i ddarparu gofal tosturiol o ansawdd uchel, sy'n ymatebol i anghenion ein cymunedau." Bydd gallu darparu gofal canser yn agosach at gartrefi cleifion yn cael effaith fawr ar draws De Ddwyrain Cymru, ac rydym wrth ein bodd y gallai Ysbyty Nevill Hall wasanaethu fel ei gartref.”

Datblygwyd yr Uned drwy bartneriaeth rhwng Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a Bwrdd Iechyd Addysgu Powys.

Bydd cleifion o ar draws De Ddwyrain Cymru a Phowys sy'n cael eu hatgyfeirio am radiotherapi yng Ngwasanaeth Canser Felindre yn derbyn eu triniaeth, naill ai yng Nghanolfan Ganser Felindre yn yr Eglwys Newydd neu yn Uned Radiotherapi Felindre @ Nevill Hall, yn dibynnu ar yr angen clinigol ac os oes apwyntiadau ar gael.