Dydd Mercher 5 Chwefror 2025
Wrth i ni nodi pen-blwydd cyntaf Uned y Fron yn Ysbyty Ystrad Fawr, rydym yn myfyrio ar flwyddyn o gyflawniadau rhyfeddol ac ymroddiad diwyro i ofal cleifion. Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae Uned y Fron wedi dod â thimau clinigol ynghyd sy'n cynnig gofal cleifion allanol, ymchwiliadau diagnostig a llawdriniaeth. Mae'n uned amlddisgyblaethol gydag Ymgynghorwyr, Radiolegwyr, Nyrsys Gofal y Fron, Mamograffwyr, Nyrsys Cleifion Allanol, Gweithwyr Cynnal Gofal Iechyd, Ysgrifenyddion Meddygol a staff Archebu.
Mae cyflwyno gwasanaeth diagnostig un stop o safon aur wedi galluogi cleifion i gael gweithdrefnau ymchwiliol mewn un ymweliad, gan wella effeithlonrwydd a boddhad cleifion yn sylweddol.
Dywedodd Natalie North, Rheolwr Cefnogi Uned y Fron: "Mae llwyddiant yr Uned yn dyst i waith caled a chydweithrediad y timau clinigol, cefnogaeth y gymuned leol a gweledigaeth arweinwyr fel Mr Gateley, y mae eu hetifeddiaeth yn parhau i ysbrydoli'r tîm. Wrth i ni edrych i'r dyfodol, rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i ddarparu gofal a chymorth o'r ansawdd uchaf i'r rhai yr effeithir arnynt gan ganser y fron."