Mae’r tîm Awdioleg i Oedolion yn helpu pobl 16 oed a hŷn. Os nad ydych wedi ymweld â ni o'r blaen ac angen archwiliad arnoch am broblemau clyw, tinnitus, neu broblemau cydbwysedd, ewch i weld eich Meddyg Teulu a gallant wneud atgyfeiriad.
Weithiau, efallai y bydd eich meddyg teulu yn eich anfon at feddyg y Glust, y Trwyn a’r Gwddf (ENT) ar gyfer rhai cyflyrau sydd angen barn feddygol.
Nid ydym yn darparu gwasanaeth tynnu cwyr clust. Ewch i wefan cronni cwyr clust y GIG i gael cyngor - Cronni cwyr clust - GIG