Neidio i'r prif gynnwy

Cais am Dacsi

Os nad ydych yn bwriadu cael eich casglu gan ffrind/aelod o’r teulu neu ofalwr, na ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, mae gennym ffonau tacsis cyhoeddus y gellir eu defnyddio am ddim ar gael a bydd staff derbynfeydd ar gael i’ch cynorthwyo hefyd. Gallwch hefyd siarad ag aelod o dîm y ward am gyngor ar sut i archebu tacsi preifat.

Mae ffôn tacsis rhad ac am ddim Ysbyty Athrofaol y Faenor ger y Brif dderbynfa ac yn yr Adran Achosion Brys.


Ysbyty Brenhinol Gwent
Gallwch hefyd ofyn i'r Swyddfa Gyffredinol alw tacsi, mae'r swyddfa wedi'i lleoli ar y 3ydd llawr ger Mynedfa Belle Vue ac mae ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 08:00am a 4:00pm (ddim ar gael ar Ŵyl y Banc nac y Tu Allan i Oriau).


Ysbyty Ystrad Fawr
Gallwch ofyn i'r Swyddfa Gyffredinol alw tacsi, mae'r swyddfa ar lefel 0 ac ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 08:00am a 5:00pm.

 

Ysbyty Sant Cadog
Gallwch ofyn i'r Swyddfa Gyffredinol alw tacsi, mae'r swyddfa wedi'i lleoli yn hen brif adeilad yr ysbyty o dan dwr y cloc. Mae staff ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 08:30am a 4:30pm a dydd Gwener 08:30am - 4:00pm.


Ysbyty Nevill Hall - Gallwch ofyn i'r derbynnydd yn y Brif Dderbynfa alw tacsi. Mae'r swyddfa wedi'i lleoli yn y brif fynedfa ar Lefel 0 ac ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 09:00am a 5:00pm.


Ysbyty Gwynllyw - Gallwch ofyn i’r Swyddfa Gyffredinol alw tacsi, mae’r swyddfa wedi’i lleoli yng nghyntedd prif fynedfa’r Ysbyty ac mae ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener o 08:30am – 4:00pm (ddim ar gael ar Ŵyl y Banc nac y Tu Allan i Oriau) .