Neidio i'r prif gynnwy

Cwestiynau Cyffredin

Pa mor hir y mae'r apwyntiad yn debygol o'i gymryd (triniaeth ac amser aros)?

Bydd faint o amser y byddwch yn ei dreulio yn yr adran endosgopi yn dibynnu ar y driniaeth sydd ei hangen arnoch, y feddyginiaeth yr ydych yn ei chael a sut y byddwch yn teimlo ar ôl eich triniaeth. Mae rhai triniaethau'n cymryd mwy o amser nac eraill – am fwy o wybodaeth, darllenwch eich taflen wybodaeth. Mae cleifion sy’n cael tawelydd yn cael eu cadw yn yr adran yn hirach fel y gellir eu monitro nes eu bod yn gwbl effro.

O bryd i’w gilydd, gall rhestrau endosgopi redeg yn hwyr gan fod rhai gweithdrefnau'n cymryd mwy o amser nag yr ydym yn ei ddisgwyl, neu am fod oedi anochel yn digwydd. Bydd y staff endosgopi yn rhoi gwybod i chi am unrhyw oedi.

 

A fydd y driniaeth yn brifo neu'n anghyfforddus?

Ein nod yw eich cadw mor gyfforddus â phosibl yn ystod eich triniaeth, ond gall ychydig o anghysur fod yn gyffredin. Yn ystod colonosgopi neu sigmoidosgopi hyblyg, mae teimlad fod gwynt yn sownd yn gyffredin. Mewn triniaethau sy'n cynnwys y stumog, mae torri gwynt a theimlo’n llawn gwynt yn gyffredin iawn.

Rydym yn aml yn defnyddio tawelydd, analgesia (poenladdwyr), Entonox (nwy ac aer), anesthetig lleol, neu gyfuniad o gyffuriau i’ch cadw’n gyfforddus. Bydd eich taflen wybodaeth yn cynnwys gwybodaeth am y meddyginiaethau sydd ar gael i chi. Gallwch hefyd drafod hyn gyda'r staff endosgopi ar ddiwrnod y driniaeth, neu drwy gysylltu â hwy ymlaen llaw ar y rhif ffôn sydd wedi'i gynnwys ar eich llythyr apwyntiad.

 

A fyddaf yn gallu atal y driniaeth ar unrhyw adeg?

Gallwch roi stop ar eich triniaeth ar unrhyw adeg.

Bydd nyrs yn siarad â chi drwy gydol y driniaeth, felly gallwch ddweud wrthynt os ydych am i'r driniaeth ddod i ben. Bydd yr endosgopydd hefyd yn gwrando ar yr hyn rydych chi'n ei ddweud.

Yn ystod gastrosgopi, mae'n anodd siarad, felly rydyn ni'n dweud wrth gleifion am godi eu llaw yn yr awyr fel arwydd bod angen ein sylw arnynt, neu i roi gwybod eu bod eisiau i'r prawf ddod i ben.

Sylwch nad yw fel arfer yn bosibl tynnu'r camera ar unwaith, gan y gall hyn fod yn beryglus. Os penderfynwch ddod â’r driniaeth i ben, bydd yr endosgopydd yn tynnu'r camera mor ddiogel a chyflym ag y gallant.

 

Beth sy'n digwydd os na fyddaf yn paratoi'r coluddyn yn iawn?

Mae'n bwysig iawn eich bod yn dilyn cyfarwyddiadau paratoi'r coluddyn yn ofalus. Os na fyddwch yn dilyn y cyfarwyddiadau, efallai na fydd leinin y coluddyn yn lân ac ni fydd yr endosgopydd yn gallu gweld unrhyw annormaleddau sydd yno. Os nad yw'ch coluddyn yn lân, gall olygu bod yn rhaid i chi baratoi'r coluddyn unwaith eto.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, problemau neu bryderon o ran paratoi’r coluddyn cyn i chi ddechrau neu wrth i chi baratoi’r coluddyn, cysylltwch â'r uned endosgopi fel y gallant eich helpu.

 

Beth yw effeithiau'r tawelyddion - beth y gallaf ei wneud a beth na allaf ei wneud ar ôl y driniaeth?

Mae llawer o bobl yn disgwyl y bydd y tawelydd yn eu "rhoi i gysgu" ond nid yw hyn yn wir. Er bod rhai pobl yn teimlo'n gysglyd, fe fyddwch yn effro, ond dylech deimlo'n ddi-gyffro a llonydd.

Gall y tawelydd roi amnesia i chi, felly efallai y byddwch yn sylwi eich bod yn anghofio rhannau o’r driniaeth neu’n anghofio popeth amdani.  Gall hefyd eich gwneud ychydig yn ansefydlog ar eich traed. Am y rhesymau hyn, gofynnwn i chi gael rhywun i'ch casglu o'r uned endosgopi, gorffwys gartref am 24 awr, a pheidio â gyrru, gweithredu peiriannau, nac arwyddo dogfennau pwysig. Bydd angen i chi hefyd gymryd y diwrnod ar ôl eich triniaeth i ffwrdd o'r gwaith.

 

Pryd fyddaf yn cael fy nghanlyniadau?

Bydd yr endosgopydd a/neu'r nyrs rhyddhau fel arfer yn trafod canlyniadau'r driniaeth gyda chi cyn i chi adael yr uned endosgopi.

Os cymerwyd biopsïau neu samplau yn ystod eich triniaeth, mae angen anfon y rhain i labordy i'w harchwilio gan batholegydd. Gall y broses hon gymryd sawl wythnos, ond bydd yr endosgopydd yn gallu dweud wrthych pam y cymerwyd y samplau a phryd y gellir disgwyl y canlyniadau. Pan fyddant ar gael, bydd yr endosgopydd fel arfer yn ysgrifennu atoch chi a'ch meddyg teulu gyda'r canlyniadau.

 

Beth ddylwn i ei wneud os:

Nad oes gen i neb i edrych ar fy ôl i, ac rydw i eisiau tawelydd?

Cysylltwch â'r uned endosgopi i drafod yr opsiynau sydd ar gael i chi.

Rwyf angen cludiant i'r ysbyty?

Mae cludiant ysbyty yn cael ei drefnu ar gyfer cleifion sy'n gymwys ar ei gyfer yn unig. Os oes angen, soniwch am hyn wrth drefnu eich apwyntiad. Os ydych yn sylweddoli bod angen cludiant ysbyty arnoch ar ôl i'ch apwyntiad gael ei drefnu, cysylltwch â'r uned endosgopi.

Rwy'n ddryslyd ynglŷn â pharatoi'r coluddyn ac nid wyf yn deall beth i'w wneud?

Cysylltwch â'r uned endosgopi er mwyn i staff eich helpu.

Rwy'n teimlo'n sâl ar ôl cymryd rhan yn y gwaith o baratoi'r coluddyn?

Cysylltwch â'r uned endosgopi er mwyn i staff eich helpu.

Mae angen i mi gymryd fy nhabledi ac rwy'n ymprydio?

Dylech gymryd eich tabledi fel arfer oni bai y dywedwyd wrthych yn benodol i beidio â gwneud hynny (er enghraifft, teneuwyr gwaed neu dabledi haearn).

Os ydych chi'n ymprydio cyn gastrosgopi, cymerwch dabledi hanfodol (meddyginiaeth pwysedd gwaed a meddyginiaeth at y galon) o leiaf 2 awr cyn eich apwyntiad gyda llymaid bach o ddŵr.

Os byddwch yn cymryd eich tabledi tua’r un amser ag y byddwch yn paratoi'r coluddyn, dylech ganiatau o leiaf 1 awr bob ochr i'r dosau paratoi cyn cymryd tabledi. Mae hyn oherwydd y gall paratoi'r coluddyn olchi eich tabledi i ffwrdd, gan achosi iddynt beidio â gweithio.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â'r uned endosgopi fel y gall y staff eich helpu.

Rwy’n cymryd tabledi teneuo gwaed?

Mae teneuwyr gwaed (a elwir hefyd yn gyffuriau gwrthgeulo) yn cynnwys meddyginiaethau fel warfarin, aspirin, clopidogrel, apixaban, edoxaban (Lixiana), rivaroxaban (Xarelto), a dabigatran. Fe ddylai rhywun fod wedi eich holi am deneuwyr gwaed wrth i chi drefnu eich apwyntiad. Os nad ydych wedi cael cyngor ar beth i'w wneud o ran eich teneuwyr gwaed, cysylltwch â'r uned endosgopi fel y gall y staff eich helpu. Mae'n bwysig iawn gwneud hyn mewn da bryd cyn eich apwyntiad.

Rwy’n ddiabetig?

Efallai y byddwch yn cael eich cynghori i beidio â chymryd dosau o feddyginiaeth benodol neu eu haddasu er mwyn lleihau'r risg y bydd y siwgr yn eich gwaed yn mynd yn isel (hypoglycaemia) tra byddwch yn ymprydio, ond bydd hyn yn wahanol ar gyfer pob unigolyn. Mae'n bwysig iawn eich bod yn cysylltu â'r uned endosgopi mewn da bryd cyn eich triniaeth fel y gallant eich cynghori ar beth i'w wneud am eich diabetes.

Nid wyf yn deall pam fod angen y driniaeth arnaf.

Cysylltwch â'r uned endosgopi fel y gall y staff drafod hyn gyda chi.

Nid wyf eisiau’r driniaeth

Eich penderfyniad chi yw cael unrhyw driniaeth.

Rydym yn deall y gall triniaethau endosgopi fod yn annymunol, a bod risgiau sy'n gysylltiedig â'u cael. Gall risgiau hefyd fod yn gysylltiedig â pheidio â chael triniaethau endosgopi pan fyddant wedi'u hargymell.

Byddem yn cynghori trafod y rhesymau pam nad ydych chi eisiau'r driniaeth gyda'r gweithiwr gofal iechyd proffesiynol a’ch atgyfeiriodd - eich meddyg  neu feddyg ysbyty neu nyrs. Os ydych chi'n cael triniaeth sgrinio'r coluddyn, cysylltwch â'r Ymarferwyr Sgrinio.

Os oes angen i chi ganslo neu aildrefnu eich apwyntiad, rhowch wybod i ni cyn gynted â phosibl trwy gysylltu â'r tîm trefnu apwyntiadau. Mae hyn yn rhoi'r cyfle gorau posibl i ni allu cynnig eich apwyntiad i rywun arall.

Rydym yn deall y gall amgylchiadau newid yn gyflym, ac heb fawr o rybudd. Hyd yn oed os oes angen i chi ganslo'ch triniaeth ar fyr rybudd, rydym bob amser yn gofyn i chi gysylltu â ni yn gyntaf yn hytrach na pheidio â mynychu.

Mae gen i gwestiynau nad ydynt wedi cael eu hateb yma

Cysylltwch â'r uned endosgopi er mwyn i staff eich helpu.