Neidio i'r prif gynnwy

Cyn Eich Triniaeth

 

Gofynnir am yr holl driniaethau endosgopi gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol. Yn dibynnu ar y math o driniaeth, efallai y byddwch yn cael eich cyfeirio am brawf endosgopi yn syth ar ôl gweld eich meddyg teulu, ond ar adegau eraill efallai y bydd angen i chi siarad â nyrs neu feddyg arbenigol i benderfynu pa brawf endosgopi fyddai orau ar eich cyfer.

Os ydych wedi cael prawf carthion Sgrinio Coluddion Cymru positif, ac wedi cael eich cynghori i gael colonosgopi, bydd Sgrinio Coluddion Cymru yn anfon llythyr atoch yn gofyn i chi gysylltu â hwy'n uniongyrchol i drefnu apwyntiad ffôn gydag Ymarferydd Sgrinio.

Bydd y tîm trefnu apwyntiadau endosgopi yn eich ychwanegu at y rhestr aros briodol. Bydd y rhestr aros y byddwch yn cael eich hychwanegu ati’n dibynnu ar y driniaeth y byddwch yn ei chael, a’r rheswm dros y driniaeth.

Proses Trefnu Apwyntiad

Pan fydd y tîm trefnu apwyntiadau yn barod i gynnig apwyntiad i chi, bydd llythyr yn cael ei anfon atoch yn gofyn i chi gysylltu â hwy er mwyn trefnu apwyntiad.

Pan fyddwch yn ffonio, efallai y bydd y clerc trefnu apwyntiadau yn gofyn ambell i gwestiwn i chi am feddyginiaeth benodol, megis teneuwyr gwaed (gwrthgeulyddion) a thabledi haearn, yn ogystal â chyflyrau meddygol penodol, megis diabetes. Gan fod angen rhoi’r gorau i gymryd rhai meddyginiaethau am gyfnod ar gyfer eich triniaeth endosgopi, efallai y bydd y clerc trefnu apwyntiadau yn eich trosglwyddo i siarad â gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn yr uned endosgopi er mwyn iddynt allu rhoi cyngor wedi'i deilwra i chi. Peidiwch â rhoi'r gorau i gymryd eich meddyginiaeth oni bai bod gweithiwr gofal iechyd proffesiynol wedi dweud wrthych am wneud hynny.

Fel arfer cynigir apwyntiad i chi yn yr ysbyty agosaf sy'n cynnig y driniaeth sydd ei hangen arnoch, ond, o bryd i’w gilydd, efallai y byddwch yn cael cynnig apwyntiad mewn ysbyty sy’n bellach i ffwrdd os yw'r amser aros yn sylweddol fyrrach.

Efallai y bydd eich apwyntiad yn cael ei drefnu gydag endosgopydd o unrhyw ryw er mwyn lleihau unrhyw oedi. Os ydych yn ffafrio opsiwn penodol neu os oes gennych angen penodol, cofiwch grybwyll hyn wrth drefnu eich apwyntiad.

Os oes angen cludiant i’r ysbyty arnoch, soniwch am hyn wrth drefnu eich apwyntiad.

Cyn-Asesu

Ar gyfer rhai triniaethau, efallai y gofynnir i chi gael asesiad dros y ffôn gyda nyrs arbenigol cyn y gellir trefnu’r driniaeth. Os bydd angen gwneud hyn, bydd apwyntiad ffôn yn cael ei drefnu’n awtomatig ar eich cyfer yn gyntaf, cyn y bydd apwyntiad ar gyfer y driniaeth ei hun yn cael ei drefnu.

Mae pob triniaeth Sgrinio Coluddion Cymru yn gofyn am apwyntiad cyn asesu dros y ffôn.

Gwybodaeth Cyn y Driniaeth

Ar ôl i chi gael apwyntiad, byddwch yn derbyn pecyn gwybodaeth ynghyd â'ch llythyr apwyntiad. Bydd hyn fel arfer yn cynnwys:

  • Eich llythyr apwyntiad.
  • Taflen wybodaeth am eich triniaeth.
  • Ffurflen Ganiatâd felyn (yn aml bydd ynghlwm wrth y daflen wybodaeth).
  • Gwybodaeth am beth i'w wneud o ran bwyd yn ystod y dyddiau cyn y driniaeth.
  • Cyfarwyddiadau ar baratoi'r coluddyn (ar gyfer colonosgopi / sigmoidosgopi hyblyg).

Rydym yn eich cynghori i ddarllen trwy'r wybodaeth hon cyn gynted â phosibl ar ôl i chi ei derbyn, gan y gallai gynnwys cyfarwyddiadau y dylech eu dilyn hyd at wythnos cyn eich gweithdrefn. Os ydych chi'n teimlo bod unrhyw beth ar goll, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â'r tîm trefnu apwyntiadau.

Paratoi'r Coluddyn

Ar gyfer rhai triniaethau, megis colonosgopi neu sigmoidosgopi hyblyg, mae angen clirio'r coluddyn er mwyn sicrhau y gall yr endosgopydd gael golwg dda ar eich coluddyn.

Ar gyfer sigmoidosgopïau hyblyg, byddwch fel arfer yn derbyn rhai tabledi rhyddhau (Bisacodyl), ac enema. Ar gyfer colonoscopiau, fel arfer, bydd pecynnau o bowdr yn cael eu hanfon atoch a bydd angen i chi gymysgu’r rhain gyda dŵr. Bydd y feddyginiaeth rhyddhau hyn yn gwneud i chi agor eich coluddyn gryn dipyn, felly arhoswch yn agos at doiled pan fyddwch yn eu cymryd.

Defnyddir nifer o wahanol fathau o feddyginiaeth rhyddhau a threfniadau paratoi cyn triniaeth endosgopi. Bydd y wybodaeth y byddwch yn ei derbyn cyn eich triniaeth yn cael ei theilwra'n benodol ar gyfer eich triniaeth a dylai gynnwys yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch er mwyn eich galluogi i baratoi eich coluddyn yn gywir. Darllenwch yr holl gyfarwyddiadau yn ofalus cyn i chi ddechrau paratoi eich coluddyn. Os nad ydych yn siŵr, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â'r rhif ffôn ar eich llythyr apwyntiad er mwyn i’n staff allu eich helpu.

Tawelyddu

Ar gyfer rhai triniaethau, efallai y byddwch yn cael cynnig meddyginiaeth dawelyddu. Oherwydd y gall y meddyginiaethau a ddefnyddir i’r dibenion hyn fod yn gryf, ni fyddwch yn gallu gyrru, gweithredu peiriannau, na chael eich gadael ar eich pen eich hun am 24 awr ar ôl eich llawdriniaeth. Os ydych yn bwriadu cael eich tawelyddu, sicrhewch fod oedolyn cyfrifol yn dod gyda chi ar y diwrnod ac yn aros gyda chi ar ôl y driniaeth.

Aildrefnu eich apwyntiad

Os oes angen i chi ganslo neu aildrefnu eich apwyntiad, rhowch wybod i ni cyn gynted â phosibl trwy gysylltu â'r tîm trefnu apwyntiadau. Mae hyn yn rhoi'r cyfle gorau posibl i ni allu cynnig eich apwyntiad i rywun arall.

Rydym yn deall y gall amgylchiadau newid yn gyflym, ac heb fawr o rybudd. Hyd yn oed os oes angen i chi ganslo'ch triniaeth ar fyr rybudd, rydym bob amser yn gofyn i chi gysylltu â ni yn gyntaf yn hytrach na pheidio â mynychu.

Beth nesaf?

Cliciwch yma i ddarllen am yr hyn y gallwch ei ddisgwyl ar ddiwrnod eich apwyntiad.