Mae Prosiect Unicorn Dewi Sant yn cefnogi plant sydd mewn profedigaeth.
Rhif ffôn: 01633 851051
Gwefan : https://www.sueryder.org/how-we-can-help/someone-close-to-me-has-died/bereavement-support-we-offer
Hope Again yw gwefan ieuenctid Cruse Bereavement Care. Mae'n lle diogel lle gallwch ddysgu gan bobl ifanc eraill, sut i ymdopi â galar, a theimlo'n llai unig.
Yma cewch wybodaeth am y gwasanaethau a ddarperir, clust wrando gan bobl ifanc eraill a chyngor i unrhyw berson ifanc sy'n delio â cholli rhywun annwyl.
Rhif ffôn: 0808 808 1677
E-bost: hopeagain@cruse.org.uk
Gwefan: www.hopeagain.org.uk
Mae'r Childhood Bereavement Network (CBN) yn sefydliad o aelodau arbenigol, sy'n gweithio gyda'i gilydd i gefnogi plant a phobl ifanc mewn profedigaeth. Mae CBN yn cael ei gynnal gan Fiwro Cenedlaethol y Plant, sy'n cynnig cefnogaeth sefydliadol i'r Rhwydwaith.
Gwefan: Childhood Bereavement Network
Mae Grief Encounter yn un o elusennau profedigaeth mewn plentyndod mwyaf blaenllaw'r DU. Fe’i crëwyd i helpu plant sydd wedi dioddef marwolaeth rhiant neu frawd neu chwaer. Ydych chi'n blentyn, yn berson ifanc yn eich arddegau neu'n oedolyn sydd wedi wynebu marwolaeth rhywun annwyl? Ydych chi'n rhoddwr gofal sydd angen cyngor ar sut i gefnogi pobl ifanc yn dilyn marwolaeth rhiant neu frawd neu chwaer? Oes angen i chi siarad?
Gallwch ffonio, e-bostio neu sgwrsio ar unwaith gyda gweithwyr proffesiynol hyfforddedig yn Grieftalk, 5 diwrnod yr wythnos, 9am – 9pm.
Rhif ffôn: 0808 802 0111
E-bost: grieftalk@griefencounter.org.uk
Gwefan https://www.griefencounter.org.uk/
E-lyfr newydd yw LostForWords a grëwyd gan Ben Brooks-Dutton gyda'r tasglu Life Matters – cynghrair o elusennau sy'n galw am well cefnogaeth i deuluoedd mewn profedigaeth. Mae'r e-lyfr yn rhad ac am ddim i'w lawrlwytho ac mae’n cynnwys cyngor a mewnwelediadau gan blant mewn profedigaeth o fabandod i bobl ifanc yn eu harddegau.
Gallwch ddod o hyd i'r wybodaeth LostForWords yma:
https://www.winstonswish.org/wp-content/uploads/2019/11/Lost-For-Words-Benjamin-Brooks-Dutton.pdf
Mae'r sefydliad hwn yn cynnig cefnogaeth i'r rhai sydd wedi dioddef marwolaeth annisgwyl plentyn/person ifanc o dan 25 oed.
Darperir cymorth/ cwnsela dros y ffôn a blychau atgofion.
Rhif ffôn: 01443 853125
E-bost: info@2wishuponastar.org
Gwefan 2wish Support for those affected by death in young people