Neidio i'r prif gynnwy

Gofal ar ol Marwolaeth a Phrofedigaeth

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn cydymdeimlo'n ddiffuant ag unrhyw un ar farwolaeth anwylyn. Pan fydd rhywun sy'n agos atoch wedi marw, gall fod yn anodd iawn gweithio drwy ymarferoldeb yr hyn sydd angen ei wneud a phwy sydd angen eu hysbysu.

Yn dilyn marwolaeth yn yr ysbyty, bydd y Tîm Gofal ar ôl Marwolaeth yn helpu i drefnu'r dystysgrif marwolaeth sydd ei hangen arnoch i gofrestru'r farwolaeth a threfnu'r angladd.  

Yn dilyn marwolaeth eich perthynas, cysylltwch â'r Tîm Gofal ar ôl Marwolaeth pan fyddwch yn barod. Ffoniwch 01443 802406 a dewiswch yr opsiwn priodol yn dibynnu ar ba ysbyty y bu farw eich perthynas ynddo:

  • Opsiwn 1 – Ysbyty Athrofaol y Faenor
  • Opsiwn 2 – Ysbyty Brenhinol Gwent, Ysbyty Gwynllyw ac Ysbyty’r Sir
  • Opsiwn 3 – Ysbyty Nevill Hall ac Ysbyty Cymunedol Cas-gwent
  • Opsiwn 4 – Ysbyty Ystrad Fawr ac Ysbyty Aneurin Bevan