Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth Cludo Cleifion Di-argyfwng

Mae Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn darparu Gwasanaeth Cludo Cleifion Di-argyfwng i gleifion ledled Cymru na allant, am resymau meddygol, wneud eu ffordd eu hunain i’w hapwyntiadau ysbyty ac oddi yno.

Mae’n adnodd hanfodol i helpu’r cleifion hynny sy’n dibynnu ar y gwasanaeth ac ni ddylai gael ei ddefnyddio gan y rhai heb angen meddygol.

Sylwch nad yw'r angen am driniaeth yn awtomatig yn golygu bod angen cludiant. Mae yna broses gymhwysedd y mae'n ofynnol i bob claf ei dilyn i sicrhau bod eich anghenion yn briodol ar gyfer y gwasanaeth.

Ar gyfer cleifion y canfyddir nad ydynt yn gymwys, mae Tîm Cludiant Amgen sy'n gallu trafod opsiynau cludiant yn eich ardal.

Gallech fod yn gymwys am gludiant ysbyty os;

  • Rydych yn cael triniaeth dialysis neu ganser yn rheolaidd;
  • Mae angen stretsier arnoch ar gyfer y daith;
  • Mae angen ocsigen arnoch ar gyfer y daith;
  • Mae angen i chi deithio yn eich cadair olwyn eich hun;
  • Ni allwch gerdded heb gymorth parhaus;
  • Ni allwch ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus oherwydd bod gennych gyflwr meddygol a fyddai'n peryglu eich urddas;
  • Mae gennych anawsterau cyfathrebu difrifol neu;
  • Byddwch yn profi sgîl-effeithiau o ganlyniad i'r driniaeth ar gyfer eich cyflwr.

 

Canslo Cludiant

Hyd at 100,000, teithiau Cludo Cleifion Di-argyfwng bob blwyddyn yn golygu nad yw'r claf yn teithio neu ddim yn y man casglu pan fydd ein criwiau'n cyrraedd. Mae canslo cludiant, os nad oes ei angen mwyach, yn bwysig iawn ac yn galluogi’r Gwasanaeth Cludo Cleifion Di-argyfwng i gynnig yr archeb i glaf arall.

Os ydych yn gymwys ac yn archebu cludiant ond angen canslo archeb, ffoniwch y rhif isod neu ewch i'w gwefan.

Am ragor o wybodaeth ewch i www.ambulance.wales.nhs.uk/

neu ffoniwch 0300 123 2303