Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth Adsefydlu Niwrolegol Cymunedol

Mae Gwasanaeth Adsefydlu Niwrolegol Cymunedol Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn cynnig cymorth adsefydlu i oedolion yng Ngwent a Chaerffili ar ôl iddynt gael eu rhyddhau o’r ysbyty yn dilyn strôc neu anaf i’r ymennydd, ac ar gyfer cymorth seicolegol ar gyfer trawiadau nad ydynt yn epileptig.

Gall fod yn anodd iawn dod i delerau ag effeithiau strôc neu anaf i’r ymennydd a dysgu byw gyda nhw. Rydym yn gweithio gyda phobl sydd wedi’u heffeithio gan strôc neu anaf i’r ymennydd i ddeall eu cyflwr, datblygu ac ailddysgu sgiliau, dychwelyd i hobïau neu gyflogaeth, gwneud y gorau o ansawdd bywyd, a chynyddu annibyniaeth a hunanreolaeth yn y gymuned.

Mae ein tîm yn cynnwys

  • Gweinyddu Busnes
  • Dietegydd (Strôc yn unig)
  • Seicolegwyr Clinigol
  • Ffisiotherapyddion
  • Therapyddion Galwedigaethol
  • Therapyddion Iaith a Lleferydd
  • Ymarferwyr Cynorthwyol Therapi

 

Beth ydyn ni'n ei wneud?
  • Ymagweddau tîm amlddisgyblaethol sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn at adsefydlu, gan helpu pobl i nodi a gweithio tuag at nodau sy’n bwysig iddynt, i helpu i wneud y mwyaf o’u hannibyniaeth ar ôl strôc neu anaf i’r ymennydd.
  • Ymyriadau unigol a grŵp.
  • Tîm dynodedig o glinigwyr i ddarparu a monitro adsefydlu yn y cartref, mewn adrannau cleifion allanol ysbytai, neu yn y gymuned.
  • Rydym hefyd yn gweithio’n agos gyda thimau cleifion mewnol ar draws ysbytai Aneurin Bevan a Chaerdydd a’r Fro i gefnogi trosglwyddiadau esmwyth i bobl sy’n dychwelyd adref.

 

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, neu os hoffech siarad ag unrhyw un o’n timau i drafod a allwn eich cefnogi chi neu rywun rydych yn ei adnabod, ffoniwch ein prif swyddfa ar 01495 363461.

 

I ddysgu mwy am bob un o'n timau, gweler yr adrannau isod.