Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth Byw'n Dda ar ôl Strôc (LWASS)

Ar gyfer pwy mae'r gwasanaeth?

Mae ein Gwasanaeth Byw’n Dda ar ôl Strôc yn cynnig rhywfaint o gymorth tymor hwy i bobl a’u teuluoedd yn dilyn strôc. Y nod yw eu galluogi i reoli eu bywyd bob dydd, neu eu cefnogi i addasu i unrhyw anawsterau parhaus y maent yn eu profi.

Gall cefnogaeth gynnwys:

  • Addysg a chyngor am effeithiau strôc
  • Cefnogaeth i ddatblygu strategaethau i hybu annibyniaeth
  • Cefnogaeth i addasu neu reoli unrhyw anawsterau parhaus a brofir
  • Cyfeirio at wasanaethau GIG perthnasol neu sefydliadau trydydd sector.

Mae ein gwasanaeth LWASS ar gael i unrhyw un sy’n byw ym Mlaenau Gwent, Caerffili, Torfaen, Casnewydd neu Sir Fynwy, sydd wedi cael strôc, neu y mae aelod o’u teulu wedi cael strôc.

 

Cymorth rhithwir ac wyneb yn wyneb

Cynigir y rhan fwyaf o gymorth LWASS dros y ffôn neu ymgynghoriadau ar-lein gan ddefnyddio Attend Anywhere neu MS Teams. Efallai y bydd rhai ymweliadau cartref neu gymunedol hefyd yn cael eu hargymell, yn dibynnu ar y cymorth a gynigir.

 

I siarad ag un o'n hymarferwyr Byw'n Dda ar ôl Strôc, ffoniwch ni ar 01495 363461 (8:00am – 4:30pm, dydd Llun i ddydd Gwener. Mae peiriant ateb ar gael y tu allan i'r oriau hyn).