Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth Dywedwch Wrthym Unwaith

Mae 'Dywedwch Wrthym Unwaith' yn wasanaeth sy'n eich galluogi i roi gwybod am farwolaeth i'r rhan fwyaf o sefydliadau'r llywodraeth ar yr un pryd. Pan fyddwch wedi cofrestru'r farwolaeth, bydd y Cofrestrydd yn rhoi rhif cyfeirnod unigryw i chi i gael mynediad i'r gwasanaeth 'Dywedwch Wrthym Unwaith' ar-lein neu dros y ffôn.

Bydd Dywedwch Wrthym Unwaith yn gallu hysbysu sefydliadau fel:

  • Adran Gwaith a Phensiynau (DWP)
  • Cyllid a Thollau EF (HMRC)
  • Swyddfa Pasbort
  • Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA)
  • Y Cyngor Lleol lle roedd eich anwylyn yn byw
  • Cymdeithasau Cyn-filwyr ac ati

Bydd CThEF a DWP yn cysylltu â chi ynglŷn â threth, budd-daliadau a hawliadau'r person a fu farw. Mae mwy o wybodaeth ar gael yma: Beth i’w wneud ar ôl i rhywun farw: Dywedwch Wrthym Unwaith - GOV.UK (www.gov.uk)

I ddefnyddio'r gwasanaeth, bydd angen y wybodaeth ganlynol am eich anwyliaid arnoch:

  • Dyddiad geni
  • Rhif Yswiriant Gwladol
  • Rhif trwydded yrru
  • Rhif pasbort
  • Manylion unrhyw fudd-daliadau neu hawliadau yr oeddent yn eu derbyn
  • Manylion unrhyw wasanaethau cyngor lleol yr oeddent yn eu derbyn
  • Enw a chyfeiriad eu perthynas agosaf
  • Enw, cyfeiriad a manylion cyswllt y person neu'r cwmni sy'n delio â'i ystâd (eiddo ac arian), a elwir yn 'ysgutor' neu 'weinyddwr'.

Er gwybodaeth: Mae angen caniatâd gan y berthynas agosaf, yr ysgutor, y gweinyddwr neu unrhyw un a oedd yn hawlio budd-daliadau neu hawliau ar y cyd â'r ymadawedig cyn i chi roi eu manylion.