Mae Child Bereavement UK yn helpu plant, pobl ifanc, rhieni a theuluoedd i ailadeiladu eu bywydau pan fydd plentyn yn galaru neu pan fydd plentyn yn marw.
Rhif ffôn: 0800 02 888 40
E-bost: support@childbereavementuk.org
Gwefan: https://www.childbereavementuk.org/
Gall y Miscarriage Association ddarparu cefnogaeth a gwybodaeth os ydych wedi cael eich effeithio gan gamesgoriad, beichiogrwydd molar neu feichiogrwydd ectopig.
Rhif ffôn: 01924 200799 Dydd Llun - Gwener 9am-4pm
E-bost: info@miscarriageassociation.org.uk
Gwefan: The Miscarriage Association: Pregnancy Loss Information & Support
Mae'r Compassionate Friends (TCF) yn sefydliad elusennol o rieni, brodyr a chwiorydd a neiniau a theidiau sydd mewn profedigaeth sy'n ymroddedig i gefnogi a gofalu am eraill sy’n aelodau o deulu sydd mewn profedigaeth debyg sydd wedi dioddef marwolaeth plentyn neu blant o fis oed ac o unrhyw achos.
Rhif ffôn: 0345 123 2304
E-bost: helpline@tcf.org.uk
Gwefan: The Compassionate Friends | What we do (tcf.org.uk)
Bob dydd, mae mwy na 100 o blant yn colli rhiant yn y DU. Winston's Wish yw'r brif elusen ar gyfer profedigaeth yn ystod plentyndod yn y DU. mae’n cynnig cymorth ac arweiniad ymarferol i blant mewn profedigaeth, eu teuluoedd a gweithwyr proffesiynol.
Rhif ffôn: 08088 020 021
E-bost: ask@winstonswish.org
Mae Llinell Gymorth Genedlaethol Sands yn darparu lle diogel a chyfrinachol i unrhyw un sydd wedi cael ei effeithio gan farwolaeth babi, p'un a fu farw eich babi amser maith yn ôl neu'n ddiweddar.
Gwefan: How we offer support | Sands - Saving babies' lives. Supporting bereaved families.