Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth Ôl-ofal Ambiwlans Awyr Cymru

Gall unrhyw berthynas i glaf sydd wedi derbyn sylw gan Wasanaeth Ambiwlans Cymru gael mynediad at y gwasanaeth ôl-ofal.

Rydym yn cynnig apwyntiadau gyda’r nyrs cyswllt cleifion, a all helpu i ateb unrhyw gwestiynau am y driniaeth a dderbyniwyd ar safle’r digwyddiad a threfn y digwyddiadau. Gall hefyd roi cymorth emosiynol i’r perthnasau a’u cyfeirio at wasanaethau eraill os oes angen.

Rydym hefyd yn cynnig cymorth emosiynol i eraill a oedd yno, a oedd yn rhan o ddigwyddiad neu a geisiodd adfer bywyd.

Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth ar Gwefan Ambiwlans Awyr Cymru