Neidio i'r prif gynnwy

Eich Canllaw i Gymorth a Chefnogaeth

Cydnabod eich hun fel gofalwr yw'r cam cyntaf un i gael y gefnogaeth sydd ei hangen arnoch. Nid yw llawer ohonom yn ystyried ein hunain fel gofalwyr ar unwaith: mamau a thadau, gwŷr, gwragedd, partneriaid, brodyr, chwiorydd, ffrindiau a chymdogion ydyn ni. Yn syml, rydym yn gwneud yr hyn y byddai unrhyw un yn ei wneud, gan ofalu'n ddi-dâl am anwylyd neu ffrind, gan eu helpu pan na allant wneud pethau drostynt eu hunain. Y gwir yw eich bod hefyd yn ofalwr, ac mae yna bethau y mae'n rhaid i chi eu gwybod. Nid oes unrhyw un yn hoffi cael ei labelu, ond gall cydnabod eich hun fel gofalwr fod yn borth i gael ystod o gymorth a chefnogaeth.

Bydd y ddolen hon â Galw Iechyd Cymru yn rhoi arweiniad a help i chi ar y pynciau a ganlyn:
Lwfans Gofalwr
Hawliau cyflogaeth i ofalwyr
Amser i ffwrdd brys
Cael help
Gofal Cartref
Gofal dydd
Dyfeisiau byw â chymorth

Darperir gwybodaeth ddefnyddiol bellach gan y sefydliad elusennol cenedlaethol 'Carers Wales' sy'n cynhyrchu Canllaw Hawliau Gofalwyr bob blwyddyn i amlinellu hawliau hanfodol gofalwyr a chyfeirio pa gymorth ariannol ac ymarferol sydd ar gael yng Nghymru.

Dadlwythwch y Canllaw Arwyddion i Wasanaethau Canser a Gofal Lliniarol.