Neidio i'r prif gynnwy

Yr hyn yr ydym yn ei gynnig

Fel gwasanaeth rydym yn cymryd lefel eich cymhelliant i ystyriaeth wrth feddwl am y ffordd orau i'ch cefnogi. Isod mae'r model cylch newid sy'n ein helpu i feddwl am lefel eich cymhelliant.

Mae llawer o'r bobl sy'n cael eu hatgyfeirio at ein gwasanaeth ar y cam ystyried yn y cylch hwn. Rydym yn deall y gall meddwl am newid fod yn frawychus ond byddwn yn gweithio gyda chi mewn ffordd gydweithredol i leihau eich ofnau a chynyddu eich cymhelliant. Bydd y driniaeth a gynigiwn wedyn yn bodloni'ch anghenion a'ch nodau a nodwyd mewn ffordd sy'n seiliedig ar dystiolaeth.

Rydym hefyd yn ystyried lefel eich risg a'r effaith y mae'r anhwylder bwyta yn ei chael ar eich iechyd corfforol a meddyliol. Byddem yn trafod unrhyw bryderon oedd gennym gyda chi mewn ffordd agored a gonest.