Neidio i'r prif gynnwy

Cwnselydd – Lefel 2+3

Mae cwnselydd yn weithiwr proffesiynol cofrestredig, cymwys sy'n gweithio gydag unigolion sy'n profi anawsterau personol, mewn amgylchedd cyfrinachol, anfeirniadol. Defnyddir ymyriadau a dulliau therapiwtig amrywiol sy’n seiliedig ar dystiolaeth, yn dibynnu ar amgylchiadau ac anghenion yr unigolyn. Mae cwnselwyr yn helpu i rymuso pobl i wneud newidiadau yn eu bywydau. Gallant hefyd eich helpu i ddod o hyd i ffyrdd o reoli rhai o'r rhwystrau a allai fod yn eich atal rhag cyrraedd eich nodau: megis bwyta emosiynol/cysurus.