Rydym yn cynnig ystod o wasanaethau i oedolion yn ardal Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan a hoffai gael cefnogaeth i golli pwysau. Bydd y gwasanaethau hyn yn rhoi'r wybodaeth, yr offer a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnoch ar gyfer colli pwysau yn llwyddiannus ac yn gynaliadwy gyda ffocws ar hybu iechyd a lles.
Yn ystod y pandemig bydd rhai o'n gwasanaethau yn cael eu darparu o bell dros gyswllt ffôn neu fideo. Mae mwy o fanylion am y gwasanaethau a ddarperir a sut y gallwch chi atgyfeirio'ch hun i'w gweld isod.
Gall meddyg neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol eich cyfeirio chi neu gallwch chi atgyfeirio'ch hun. Gallwch wneud hyn naill ai trwy lenwi ffurflen atgyfeirio ar-lein neu dros y ffôn, lle bydd aelod o'n tîm yn llenwi'r ffurflen gyda chi.
Y ffordd hawsaf o gyfeirio'ch hun at y Gwasanaeth Rheoli Pwysau Oedolion neu Foodwise yw llenwi ein ffurflen atgyfeirio ar-lein . Bydd angen i chi wybod eich taldra, eich pwysau cyfredol a chael rhestr o'ch meddyginiaeth gyfredol. Dim ond 5-10 munud y dylai'r ffurflen ei chymryd. Ar y dudalen olaf bydd angen i chi glicio 'cyflwyno'.
Y ffordd gyflymaf i atgyfeirio'ch hun yw trwy ddefnyddio ein ffurflen ar-lein, ond os na allwch wneud hynny, yna gallwch atgyfeirio'ch hun dros y ffôn. Bydd yr alwad yn cymryd tua 20-30 munud a bydd aelod o'n tîm yn gofyn cwestiynau i chi amdanoch chi a'ch pwysau. Bydd angen i chi wybod eich taldra, eich pwysau cyfredol a chael rhestr o'ch meddyginiaeth gyfredol. Ffoniwch ni ar 01633 431 776 ar ddydd Mawrth neu ddydd Iau rhwng 09:00 yb a 12:30 yp i gyfeirio dros y ffôn.
Mae ein gwasanaeth yn dod yn ôl i normal, ond am y tro rydym ond yn darparu ein cefnogaeth gyda galwadau fideo, grwpiau rhithwir a galwadau ffôn. Nid ydym yn cynnig apwyntiadau wyneb yn wyneb er eich diogelwch chi a'n diogelwch ni. Mae ein tîm yn cynnwys Deietegwyr, Gweithwyr Cymorth Deieteg, Seicolegwyr Clinigol, Cynghorwyr a Meddygon. Rydym yn cynnal ystod o grwpiau ac apwyntiadau unigol i gefnogi pobl ar hyd eu taith colli pwysau. Mae ein gwasanaeth MDT (tîm amlddisgyblaethol) lefel 3 bellach wedi ail-ddechrau.
Yn y cyfamser, os hoffech gael mynediad at unrhyw adnoddau ar-lein a gwybodaeth hunangymorth, rydym wedi cynnwys rhai dolenni defnyddiol i'ch rhoi ar ben ffordd:
Awgrymiadau hunanofal yn ystod COVID-19
Aros yn Dda yn y Cartref - Iechyd Cyhoeddus Cymru
Fideos ar-lein am ddim
Cynllun colli pwysau 12 wythnos am ddim y GIG
Bwyta'n Iach:
Ymarfer: