Neidio i'r prif gynnwy

Deietegydd – Lefel 2+3

Deietegwyr Cofrestredig (RDs) yw’r unig weithwyr iechyd proffesiynol cymwys sy’n asesu, gwneud diagnosis a thrin problemau dietegol a maeth ar lefel unigol ac ar lefel iechyd y cyhoedd yn ehangach. Mae dietegwyr yn defnyddio'r ymchwil iechyd cyhoeddus a gwyddonol mwyaf diweddar ar fwyd, iechyd a chlefydau y maent yn eu trosi'n ganllawiau ymarferol i alluogi pobl i wneud dewisiadau priodol o ran ffordd o fyw a bwyd. Nhw yw’r unig weithwyr proffesiynol maeth sydd wedi’u rheoleiddio gan y gyfraith, gyda’r rheolydd statudol y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC), ac maent yn cael eu llywodraethu gan god moesegol i sicrhau eu bod bob amser yn gweithio i’r safon uchaf.