Neidio i'r prif gynnwy

Grŵp Maeth

Mae'r grŵp maeth yn ymyriad grŵp rhyngweithiol ar-lein, wedi'i gynllunio gan Ddietegwyr Cofrestredig i ddarparu addysg fanwl ar faeth a ffyrdd iach o reoli'ch pwysau .  

Mae'r rhaglen hon yn cynnwys chwe sesiwn, naw deg munud dros 12 wythnos ac mae ar gael drwy unrhyw ddyfais sy'n gysylltiedig â'r rhyngrwyd.

Gall grŵp maeth gynnig gwybodaeth i chi am faint dognau, cyfnewid iach, cynllunio prydau bwyd, gwybodaeth calorïau, labelu bwyd a sail fiolegol ennill/colli pwysau.