Rydym yn cynnig cymorth seicolegol i unigolion ym mhob un o’r wardiau adsefydlu ar ôl strôc ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.
Mae cymorth seicoleg glinigol cleifion allanol a chymunedol ar gael i'r rhai nad ydynt yn yr ysbyty mwyach.
Gall unrhyw un yng nghymuned Gwent neu Gaerffili sydd wedi cael strôc yn gynharach yn eu bywyd gael eu hatgyfeirio am adolygiad gan seicoleg glinigol CNRS, i sefydlu unrhyw anghenion cymorth gwybyddol neu seicolegol parhaus o ganlyniad i’w strôc.
Gall pobl sy'n profi trawiadau na chredir eu bod wedi'u hachosi gan epilepsi neu sydd ag achos corfforol gael eu hatgyfeirio i gael cymorth pellach gan eu niwrolegydd.