Neidio i'r prif gynnwy

Anadlol

Mae’n bosibl y bydd unrhyw berson sy’n byw gyda chyflwr anadlol yn gweld ei bod yn anodd addasu i ddysgu am ei ddiagnosis, ac ystyried y newidiadau sydd eu hangen i’w reoli. Gall dod i delerau â diagnosis newid agwedd rhywun at fywyd. Gall cyflyrau anadlol waethygu dros amser a byddant yn aml yn dod â symptomau anrhagweladwy, a all arwain at ailasesu disgwyliadau yn y dyfodol.

Mae llawer o gyflyrau anadlol difrifol yn gronig (hirdymor a pharhaus), ac felly efallai y bydd angen newidiadau i drefn ddyddiol, iechyd a lles a all fod yn addasiad mawr. Weithiau gall meddyginiaeth hefyd beryglu rheolaeth cyflwr da. Er enghraifft, gall dechrau triniaeth newydd neu dynnu'n ôl o rai meddyginiaethau effeithio ar hwyliau a lefelau pryder sy'n aml yn peri dryswch neu ofid i bobl.