Neidio i'r prif gynnwy

Gyda beth allwn ni helpu?

Mae ein seicoleg anadlol yn cefnogi pobl i wneud addasiadau defnyddiol fel y gallant wella neu gynnal ansawdd eu bywyd a dilyn y pethau sy'n bwysig iddynt. Gallant hefyd helpu person i archwilio meddyliau a theimladau negyddol a all godi wrth fyw gyda chyflwr anadlol.

  • Rhai agweddau penodol eraill y gall seicolegydd helpu gyda nhw yw:
  • Addasu i ddiagnosis newydd, a all fod yn ddryslyd ac yn anodd
  • Ymateb i banig a phryder a dysgu technegau i leihau symptomau
  • Delio â theimladau anodd, cryf
  • Deall sut mae hwyliau a phryder yn rhyngweithio â chyflwr anadlol
  • Addasu i, newidiadau mewn galluoedd corfforol; llai o annibyniaeth a mwy o ddibyniaeth ar eraill; newid ymddangosiad; cadw at y drefn feddyginiaeth newydd; gwybod pryd i ofyn am help ac ati.
  • Gwneud dewisiadau am opsiynau triniaeth
  • Delio â cholledion
  • Addasu ar ôl derbyniad i'r ysbyty
  • Adennill cymhelliant
  • Cryfhau perthnasoedd
  • Mwynhau bywyd