Gwyddom y gall byw gyda phoen hirdymor fod yn anodd, yn gorfforol ac yn seicolegol. Gall gael effaith enfawr ar y ffordd rydych chi'n meddwl, y mathau o feddyliau a allai fod gennych, y ffordd rydych chi'n teimlo a'r ymddygiadau sy'n deillio o hyn. Mae pobl sy'n profi poen cronig yn aml yn cyflwyno anawsterau mewn agweddau eraill ar eu bywyd gan gynnwys tarfu ar gwsg, newidiadau yn y cof a chanolbwyntio, anawsterau o ran cynnal perthnasoedd a phroblemau gyda phryder a blinder.
Gall gweld Ymarferydd Seicolegydd gynyddu dealltwriaeth person o'r boen y mae'n ei brofi, lleihau pryder a hwyliau isel, yn ogystal â chymorth seicolegol cyffredinol ar gyfer brwydrau o ddydd i ddydd.
Gwyliwch y fideo hwn am wybodaeth ychwanegol