Mae'r Gwasanaeth Seicoleg Clefyd y Siwgr Oedolion yn wasanaeth arbenigol o fewn y Gwasanaeth Seicoleg Iechyd Corfforol i Oedolion. Nod y gwasanaeth yw helpu pobl sy'n cael diagnosis o Glefyd y Siwgr i wella eu hiechyd trwy driniaethau, addysg, hyfforddiant, a chefnogi sgiliau hunanreoli. Nod yr adran yw cynnig gofal o ansawdd uchel i bawb sydd â Clefyd y Siwgr, er mwyn galluogi pob person â diabetes i fyw bywyd iach a bodlon.
Yn ddealladwy, gall Clefyd y Siwgr effeithio ar hwyliau person, nid yn unig oherwydd effeithiau corfforol newid mewn siwgrau gwaed, ond hefyd oherwydd straen rheoli cyflwr ar ben bywyd bob dydd. Gall gweld seicolegydd helpu pobl i wneud synnwyr o’r anawsterau y maent yn eu profi ac i archwilio ffyrdd o ymdopi â straenwyr o’r fath, gan wella eu gwytnwch a’u hymddygiad arferol ar adegau o straen. Gall hyn, ac yn aml, gael effaith gadarnhaol ar reolaeth diabetes ac ansawdd bywyd person.