Neidio i'r prif gynnwy

Tîm Huntington a Gofal Cymhleth

Yn is-adran gofal cymhleth a hirdymor Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (BIPAP) rydym yn gweithio gyda phobl sy’n byw gydag ystod o gyflyrau iechyd cymhleth, a’r rhai sydd wedi profi anaf sy’n newid bywyd. Gall cael diagnosis o gyflwr gofal cymhleth, a/neu brofi anaf difrifol, gael effaith sy’n newid bywyd i’r bobl hynny a’u teulu, ffrindiau, a rhwydweithiau cymorth.

Ein nod yw darparu agwedd gyfannol at ofal ein cleifion a'u teuluoedd, gan ddefnyddio tîm amlddisgyblaethol, i sicrhau bod pob person a welwn yn cael y gefnogaeth orau i ddod i delerau â'u ffordd newydd o fyw a'i rheoli. Trwy ein gwaith cydweithredol o fewn yr is-adran ac yn ehangach ar draws y bwrdd iechyd, ein nod yw sicrhau bod pob person o dan ein gofal yn cael y cyfle i gael yr ansawdd bywyd gorau posibl.

 

 

I gael rhagor o wybodaeth am ein gwasanaethau ac ar gyfer unrhyw ymholiadau, cysylltwch â’n tîm drwy:

Ffôn – Tîm Huntington: 01495 763117 Gofal Cymhleth: 01495 363103