Gall byw gyda chyflwr iechyd corfforol deimlo'n llethol weithiau. Gall pobl brofi meddyliau a theimladau anodd sy'n teimlo na ellir eu rheoli. Mae'n bwysig gwybod nad ydych chi ar eich pen eich hun, ac mae cymorth ar gael.
Cyrchu cefnogaeth
Os ydych yn teimlo eich bod mewn perygl uniongyrchol, cysylltwch â Galw Iechyd Cymru (Gwasanaeth Iechyd Gwladol): 111 (Opsiwn 2) - www.111.wales.nhs.uk
Adnoddau Risg a chysylltiadau defnyddiol
- Y Samariaid: 116 123 DU (llinell gymorth 24 awr) www.samaritans.org.uk
- Llinell Wybodaeth Mind: 0300 123 3393 (Llun-Gwener 9am – 6pm) www.mind.org.uk
- Saneline: 0300 304 7000 (Bob dydd, 4:00pm – 10:00pm) www.sane.org.uk
- CALL (Cyngor Cymunedol a Llinell Wrando): 0800 132 737 (24 awr)
- Galw Iechyd Cymru: 111 www.111.wales.nhs.uk (dewiswch opsiwn 2)
Cyrchwch y gwefannau hyn i gael cymorth ychwanegol
Melo - Gwefan ar-lein rhad ac am ddim wedi'i chynllunio i ofalu am eich iechyd a'ch lles: Melo Cymru - Adnoddau, Cyrsiau a Chymorth Iechyd Meddwl a Lles
Iachach gyda'n gilydd - cymorth a chyngor lles corfforol a meddyliol. Yn cynnig ystod o adnoddau hunangymorth, awgrymiadau, a seicoaddysg: Iachach Gyda'n Gilydd (cymru.nhs.uk)
Rhoi gwybod i'ch Tîm
Os ydych chi'n cael trafferth gyda meddyliau a theimladau anodd, cysylltwch â'ch Meddyg Teulu , ymgynghorydd, neu nyrs glinigol arbenigol a all roi gwybodaeth i chi am y gwasanaethau cymorth seicoleg sydd ar gael i chi. Gall hyn fod yn wasanaethau iechyd meddwl Sylfaenol neu Eilaidd. Gall eich meddyg teulu hefyd drafod eich cyfeirio at wasanaethau iechyd meddwl lleol os yn briodol.
Cael gafael ar gymorth i gleifion
Os ydych yn pryderu y gallai rhywun fod yn risg sylweddol ac uniongyrchol iddynt eu hunain o ran hunanladdiad neu hunan-niwed, ystyriwch y canlynol:
- Os yw’r unigolyn sy’n wynebu risg yn glaf mewnol yn Ysbyty Brenhinol Gwent neu Ysbyty Gwynllyw, ac o oedran gweithio, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cyswllt Seiciatrig
- Os yw’r unigolyn sy’n wynebu risg yn glaf mewnol yn Ysbyty Brenhinol Gwent neu Ysbyty Gwynllyw ac yn 65 oed neu’n hŷn cysylltwch â’r Gwasanaeth Cyswllt Oedolion Hŷn Arbenigol
- Os yw'r unigolyn mewn perygl o dan 18 oed, cysylltwch ag Uned Plant a Phobl Ifanc Tŷ Bryn yn Ysbyty Sant Cadog (Ffôn: 01633 436833, ffacs: 01633 436834) neu drwy'r ymgynghorydd CAMHS ar alwad y tu allan i oriau.
- Os yw’r unigolyn yn glaf mewnol ar safle ysbyty arall, cysylltwch â’r Ddesg Ddyletswydd yn y tîm iechyd meddwl cymunedol oedolion neu oedolion hŷn (TIMC) lleol (gweler y rhifau isod)
- Os yw’r unigolyn yn glaf allanol cysylltwch â’i Feddyg Teulu a/neu’r Ddesg Ddyletswydd yn y Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol (TIMC) lleol (gweler y rhifau isod)
- Desg Ddyletswydd: 01495 765762